Cau swyddfeydd treth: Ymateb y Prif Weinidog

Carwyn Jones

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud nad yw'n deall sut y bydd canoli gwasanaethau yng Nghaerdydd o fudd i bobl yng ngweddill Cymru, a'i fod yn pryderu am effaith ar y gwasanaethau Cymraeg.

Daeth i'r amlwg ddydd Iau y bydd disgwyl i swyddogion treth sy'n gweithio mewn swyddfeydd ar draws Cymru i symud i Gaerdydd neu ogledd orllewin Lloegr i weithio, fel rhan o ad-drefnu sy'n golygu cau dros 100 o swyddfeydd yn y DU.

Dywedodd Gwasanaeth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi y bydd canolfan ranbarthol newydd yn cael ei sefydlu yng Nghaerdydd, gyda swyddfeydd Porthmadog, Wrecsam ag Abertawe yn cau.

Wrth gael ei holi ar Rhaglen Dylan Jones Radio Cymru fore Gwener, dywedodd Mr Jones bod pethau yn mynd yn waeth.

"I ganoli popeth yng Nghaerdydd, pa fath o neges ydi hyn i bobl y gogledd a'r gorllewin? Fe fyddwn ni fel Llywodraeth byth yn canoli popeth yng Nghaerdydd.

"Dwi ddim yn gweld bod symud gwasanaethau ymhellach i ffwrdd o bobl yn mynd i wneud pethau'n well.

"Mewn cyhoeddiad blaenorol roedd 'na son am gau rhai swyddfeydd, ond dydi Cyllid a Thollau erioed wedi dweud eu bod yn cau'r holl swyddfeydd - ond rŵan cau'r cyfan ond Caerdydd."

Image copyright Getty Images

Mae tua 350 o staff yn gweithio yn swyddfa Wrecsam, 300 yn Abertawe ag 20 ym Mhorthmadog. Dywedodd y Gwasanaeth Cyllid a Thollau y byddai staff yn cael "ystod o opsiynau ac yn cael amser i ystyried a thrafod eu dyfodol" gyda rheolwyr.

Ond dywedodd y gwasanaeth y byddai ad-drefnu yn golygu "llai o staff yn y dyfodol".

Dywedodd Lin Homer, prif weithredwr y gwasanaeth: "Mae gan Wasanaeth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ormod o swyddfeydd drud, ynysig a hen. Mae hyn yn ei wneud yn anodd cydweithio, moderneiddio ein dulliau o weithio, a gwneud y newidiadau sydd eu hangen i drawsnewid ein gwasanaeth i gwsmeriaid a thorri i lawr ar y lleiafrif sydd yn ceisio twyllo'r system."

Effaith ar yr iaith

Yn siarad ar Radio Cymru, dywedodd Mr Jones bod ganddo bryder am yr effaith fydd cau'r swyddfeydd yn ei gael ar yr iaith.

"Ystyriwch yr effaith ar y Gymraeg," meddai. "Gwasanaeth lleol ym Mhorthmadog a chanolfannau lleol. Fyddan nhw ddim yn gallu mynd mewn i swyddfa leol a bydd yn siŵr o gael effaith ar yr iaith."

Ond mewn ymateb am bryderon dyfodol gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, dywedodd Gwasanaeth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi mewn datganiad: "Mae Gwasanaeth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi ei ymrwymo i gynnig gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg i'n cwsmeriaid ac fe fyddwn yn parhau i gynnig y gwasanaeth hwn.

"Er mwyn gwneud hyn rydym yn edrych ar ffyrdd i ymuno a chryfhau ein gwasanaeth cyfrwng Cymraeg gydag adrannau eraill o'r llywodraeth. Bydd hyn yn ychwanegol i'n tîm cyfrwng Cymraeg, fydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd."

Image caption Adeilad Gwasanaeth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn Abertawe

Bydd 137 o swyddfeydd yn cau o amgylch y DU, a bydd Caerdydd yn un o 13 o ganolfannau rhanbarthol newydd, gyda'r ganolfan yn agor yn y brifddinas yn 2019-20, gyda rhwng 3,500 a 3,800 o staff yn gweithio yno.

"Newid yw newid ac fe fydd yn mynd yn y tymor byr neu hir," meddai Mr Jones. "Yn ein barn ni fe ddylai'r swyddfeydd yma aros a chadw gwasanaethau lleol a dim canoli popeth. Mae gennym ni fel llywodraeth swyddfeydd ar draws Cymru.

"Fe fyddwn ni fel llywodraeth yn brwydro er mwyn ceisio newid y penderfyniad yma, ond alla i ddim addo dim - dyw e ddim dan reolaeth llywodraeth Cymru."

Straeon perthnasol