Cyn-lywydd yn beirniadu Mesur Drafft Cymru

Arglwydd Dafydd Elis-Thomas

Mae cyn-lywydd y Cynulliad wedi disgrifio system ddatganoli arfaethedig fel yr ymdrech "waethaf" i ail-ysgrifennu cyfansoddiad Cymru yn ystod ei gyfnod mewn gwleidyddiaeth.

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas fod Mesur Drafft Cymru yn ei wneud yn llai eglur i benderfynu beth oedd wedi ei ddatganoli a beth oedd heb ei ddatganoli i Gymru.

Ychwanegodd yr aelod Cynulliad Plaid Cymru mewn cyfweliad gyda'r Western Mail fod y mesur mor ddrwg fel ei bod yn bryd "dychwelyd i'r bwrdd cynllunio".

Dywedodd ffynhonell o'r Swyddfa Gymreig na fyddai'r "pleidiau cenedlaetholgar" fyth yn fodlon.

Argymhellion

Ymysg yr argymhellion yn mesur drafft mae grymoedd newydd dros ynni, trafnidiaeth ac etholiadau'r Cynulliad.

Yn gyn-arweinydd Plaid Cymru, yr Arglwydd Elis-Thomas oedd llywydd cyntaf y Cynulliad yn 1999.

"O'r pum ymgais i ail-ysgrifennu cyfansoddiad Cymru yn fy nghyfnod mewn bywyd cyhoeddus, yn mynd nôl i 1978, hwn yw'r gwaethaf", meddai.

"Mae'r gyfraith yn llai eglur nag yr oedd cynt, ac nid yn unig y gyfraith sy'n llai eglur - mae'r hyn y gall gwleidyddion ei wneud (yn llai eglur)."

"Syndod"

Dywedodd ffynhonnell o Swyddfa Cymru fod sylwadau yr Arglwydd Elis-Thomas wedi dod fel "syndod" a bod y mesur drafft yn "delifro llawer o'r grymoedd yr oedd o ei hun yn bersonol wedi ymgyrchu drostynt drwy gydol ei gyfnod mewn bywyd cyhoeddus."

"Bydd Mesur Drafft Cymru yn adeiladu Cymru gryfach o fewn Teyrnas Unedig gryf ond ni fydd yn creu llwybr i annibyniaeth", dywedodd y ffynhonell.

"I'r perwyl hwnnw ni fydd fyth yn plesio'r pleidiau cenedlaetholgar hynny, fel Plaid Cymru."

Dydd Llun fe rybuddiodd prif weinidog Cymru Carwyn Jones aelodau seneddol y gallai pob darn o ddeddfwriaeth lanio yn y Goruchaf Lys os byddai'r cynigion yn cael eu gweithredu.