Dirwy i gwmni wedi marwolaeth gweithiwr

Stad Image copyright Google

Mae cwmni o Wrecsam wedi derbyn dirwy o £180,000 wedi i weithiwr gael ei wasgu i farwolaeth gan beiriant trwm mewn ffatri yn Rhiwabon.

Clywodd Llys y Goron Caer fod Christopher Michael Williams wedi ei wasgu i farwolaeth ar 3 Rhagfyr 2012 gan y peiriant hanner tunnell.

Roedd cwmni Morgan Technical Ceramics Ltd o Stad Ddiwydiannol Vauxhall wedi cyfaddef i honiadau iechyd a diogelwch mewn gwrandawiad blaenorol, gan bledio'n euog i'r cyhuddiadau.

Bydd yn rhaid i'r cwmni dalu £23,000 mewn costau hefyd.