Accrington Stanley 2-2 Casnewydd

Yan Klukowski Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Yan Klukowski yn dathlu sgorio'r gôl agoriadol i Gasnewydd

Dydi Casnewydd nawr heb golli mewn pedair gêm gynghrair yn olynol, wedi iddyn nhw sicrhau pwynt yn Accrington Stanley.

Mae'r clwb o dde Cymru wedi codi o waelod y tabl ers i John Sheridan gymryd rheolaeth yn gynnar ym mis Hydref, ac fe aethon nhw ar y blaen wrth i Yan Klukowski benio i'r rhwyd o groesiad Jazzi Barnum-Bobb.

Billy Kee wnaeth ymateb i Accrington bedwar munud yn ddiweddarach.

Fe lwyddodd Scott Boden i roi'r ymwelwyr yn ôl ar y blaen, ond fe wnaeth Matt Crooks sicrhau pwynt i'r tîm cartref ar ôl i Séamus Conneely daro'r postyn.