Wrecsam 4-0 Gateshead

Dominic Vose Image copyright Getty Images

Fe wnaeth Dominic Vose sgorio ddwywaith wrth i Wrecsam sicrhau trydedd fuddugoliaeth yn olynol yn y Gynghrair Genedlaethol gyda buddugoliaeth dros Gateshead.

Gwelodd yr ymwelwyr un o'u chwaraewyr yn cael eu gyrru o'r cae pan gafodd Patrick McLaughlin ail gerdyn melyn am drosedd ar Jon Nolan.

Fe aeth y tîm cartref ar y blaen o beniad Robbie Evans cyn i Blaine Hudson ddyblu'r fantais.

Fe sgoriodd Vose ddwywaith mewn pum munud i sicrhau'r fuddugoliaeth gyda 15 munud yn weddill.