Darganfod corff ger y Bala wrth chwilio am feiciwr modur

Coedwig Image copyright David Medalf/Geograph

Mae corff wedi ei ddarganfod ger y Bala wrth i heddlu chwilio am feiciwr modur.

Fe ddaeth yr heddlu o hyd i gorff y dyn yn ardal Llandderfel tua 23:00 nos Sul.

Y gred yw mai Ross Hall, 43, o ardal Accrington yn Sir Gaerhirfryn ydi'r dyn, er nad yw wedi ei cael ei adnabod yn ffurfiol eto.

Roedd teulu Mr Hall wedi cysylltu â'r heddlu gan nad oedd wedi dychwelyd adref ar amser.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio ac mae'r crwner wedi ei hysbysu.