Cefnogwyr Cymru yn trafod effaith terfysgaeth ar Euro 2016

Stade de France
Image caption Y dorf yn stadiwm Stade de France yn dilyn ymosodiadau nos Wener

Yn dilyn yr ymosodiadau terfysgol ym Mharis nos Wener, mae rhai o gefnogwyr pêl-droed Cymru wedi bod yn trafod goblygiadau'r ymosodiadau ar bencampwriaeth Euro 2016 sy'n cael ei chynnal mewn dinasoedd ar hyd a lled Ffrainc rhwng Mehefin a Gorffennaf y flwyddyn nesa'.

Mae un o gyn chwaraewyr cenedlaethol Frainc, Just Fontaine, oedd yn y Stade de France yn gwylio'r gêm rhwng Ffrainc a'r Almaen nos Wener, wedi galw ar yr awdurdodau i beidio â chynnal y gystadleuaeth gan na fyddai modd sicrhau diogelwch cefnogwyr.

Ond mae nifer o gefnogwyr Cymru sydd wedi siarad gyda BBC Cymru Fyw yn dweud eu bod yr un mor benderfynol ag erioed i ymweld â Ffrainc yr haf nesaf, er yr ymosodiadau terfysgol.

'Pryder'

Dywedodd Elin Thomas o Gaerdydd: "Mae'r sefyllfa wedi codi rhywfaint o bryder - ond o edrych ar beth ddigwyddodd nos Wener mae'n ymddangos fod y mesurau diogelwch yn Stade de France wedi gweithio os mai bwriad y terfysgwyr oedd mynd i mewn i'r stadiwm.

"Dydw i heb weld neb yn dweud nad ydyn nhw'n mynd. Mae 'na lawer o amser i fynd cyn yr haf nesa' ac fe fydd 'na lawer o ddŵr wedi mynd o dan y bont erbyn hynny. Mae sefyllfaoedd yn newid.

"Roedd pobl yn gofyn a oedd hi'n saff cyn i ni fynd allan i Israel i gefnogi Cymru? Am gyfnod cyn y gêm honno roedd pethau'n ansicr ac fe gafodd gêm rhwng Gwlad Belg ac Israel ei gohirio am gyfnod o achos y trafferthion, ond fe wnaeth pethau wella a phan roedden ni allan yno roedd pethau'n oce. Dydi rhywun methu edrych ymlaen gormod."

Ychwanegodd: "Da ni wedi gwneud trefniadau'n barod a does neb yn sôn am newid eu cynlluniau. Yr unig un 'dwi wedi ei weld yn trafod canslo'r gystadleuaeth ydi Just Fontaine. O be dwi'n weld fe weithiodd y mesurau diogelwch yn y stadiwm ac fe fyddai rhywun yn fwy pryderus am ddiogelwch o gwmpas y bariau a'r clybiau - y 'soft targets'.

"Wnaeth pobl ddim stopio mynd i Lundain ar ôl ymosodiadau terfysgol 7/7 ac mae bywyd yn gorfod mynd yn ei flaen."

Image copyright AFP
Image caption Milwyr ger y Tŵr Eiffel ddydd Llun

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru y byddai'n aros i dderbyn gwybodaeth gan UEFA, Ffederasiwn Pêl-droed Ffrainc a phwyllgor trefnu Euro 2016 cyn adolygu unrhyw wybodaeth diogelwch sydd yn dod i law.

Yn ôl Rob Dowling o Gymdeithas Bêl-droed Cymru: "Mae trefniadau diogelwch yn cael eu hadolygu gêm wrth gêm. Er engraifft, yn ystod yr ymgyrch i gyrraedd y rowndiau terfynol, roedd camau diogelwch ychwanegol o amgylch Stadiwm Dinas Caerdydd cyn ymweliad Israel yn gynharach eleni."

'Bullies ydyn nhw'

Un arall sydd mor bendant ag erioed o gefnogi Cymru yn Ffrainc ydi Dewi Evans, o Bwllheli.

Dywedodd wrth Cymru Fyw: "Tydi'r hyn ddigwyddodd yn Paris ddim yn mynd i newid fy marn i am fynd - 'da chi ddim yn rhoi mewn i bobl fel 'na. Fydda' peidio mynd yn rhoi mewn iddyn nhw - 'bullies' ydyn nhw.

"Fe es i gêm Israel ac mi roedd 'na security yno ond doedd rhywun ddim yn ei weld o. Roedd o'n amlwg fod na heddlu plainclothes o gwmpas y lle adeg hynny - roeddan ni'n yfed mewn bar ger yr American Embassy oedd wedi cael ei fomio flynyddoedd cynt - felly roedd 'na security o gwmpas y gêm honno, ond doedd o ddim yn amlwg.

"Mae be sydd wedi digwydd yn Paris yn gwneud rhywun yn hyd yn oed fwy penderfynol i fynd. I fi - 'dwi wedi teithio llawer a bod ar y môr - felly tydi peth fel hyn ddim yn mynd i fy stopio.

"Mae 'na lot o bobl yn meddwl yr un fath â fi. Roeddwn i'n siarad gyda rhywun yn gynharach oedd wedi meddwl mynd a tydi hyn heb newid eu meddwl. Dydi rhywun ddim yn rhoi mewn iddyn nhw."

'Wedi synnu'

Image caption Gary Pritchard yn cefnogi Cymru yn erbyn Azerbaijan yn Baku yn 2002

Cefnogwr pybyr arall o dîm pêl-droed Cymru, ac sydd wedi teithio miloedd o filltiroedd dros y degawdau diwethaf i bedwar ban byd i gefnogi ei wlad ydi Gary Pritchard o Ynys Môn.

"Does na neb yn trafod peidio mynd o'r criw sy'n bwriadu mynd," meddai wrth Cymru Fyw. "Dwi wedi synnu gweld y sylw gan Just Fontaine, oedd yn awgrymu na ddylai'r gystadleuaeth fynd yn ei blaen - mae hynny yn synnu rhywun achos mae'n gadael i'r terfysgwyr ennill.

"Dydw i heb siarad hefo neb oedd yn bwriadu mynd sydd ddim yn meddwl mynd ar ôl yr hyn sydd wedi digwydd. Mae 'na griw ohona ni wedi bod yn trafod trefniadau y bore ma a does 'na neb wedi dweud nad ydyn nhw ddim yn mynd.

"Ers ychydig flynyddoedd mae enw'r person sydd yn prynnu tocyn yn cael ei roi ar y tocyn i sicrhau fod y person sydd wedi ei brynu yn mynd i'r gêm. Yn y gorffennol doedd neb yn checio hyn ond falle y bydd hyn yn newid ar ôl yr hyn sydd wedi digwydd."

Ychwanegodd: "Mae rhywun yn fwy gwyliadwrus pan yn mynd i gystadlaethau mawr beth bynnag gan eu bod yn dargedau posib i derfysgwyr, ac mae o yn gefn meddwl rhywun.

"Ond wedi i ni ddilyn Cymru am 40 mlynedd, a Chymru heb gyrraedd rowndiau terfynol pencampwriaeth fawr ers 1958, does neb dwi wedi siarad hefo nhw yn meddwl na fyddan nhw'n mynd."

Image copyright Getty Images
Image caption Mae Cymru wedi llwyddo i gyrraedd cystadleuaeth fawr am y tro cynta' ers degawdau

Straeon perthnasol