Achos Tracey Woodford: Cuddio corff oherwydd 'ofn'

Christopher May a Tracey Woodford Image copyright Wales News Service
Image caption Mae Christopher May yn gwadu llofruddio Tracey Woodford

Mae cyn gigydd wnaeth ladd dynes cyn torri ei chorff yn ddarnau wedi dweud wrth lys ei fod wedi cuddio'r corff oherwydd bod ganddo ofn cael ei arestio.

Mae Christopher Nigel May, 50, yn gwadu cyhuddiad o lofruddio yn Llys y Goron Caerdydd.

Cafodd Tracey Woodford, 47, ei darganfod yn fflat Mr May ym Mhontypridd ym mis Ebrill.

Dywedodd Mr May bod ganddo "ddyheadau rhywiol arferol" ac nad yw'n cael pleser rhywiol o drais.

Clywodd y llys bod Ms Woodford wedi bod yn yfed yn nhafarn y Skinny Dog ym Mhontypridd, lle roedd Mr May hefyd yn yfed gyda ffrindiau.

Dywedodd ei fod wedi ei ddenu at Ms Woodford a'i bod hi wedi cytuno i ddod yn ôl i'w fflat i gael rhyw.

Clywodd y llys bod y ddau wedi cael rhyw yn y fflat cyn i Mr May "golli diddordeb".

'Colli rheolaeth'

Dywedodd ei fod wedi deffro'r bore wedyn a gweld Ms Woodford yn edrych yn ei waled. Dywedodd bod y ddau wedi ffraeo a'i bod hi wedi taflu'r waled ato.

"Fe wnes i golli rheolaeth wedyn - dydw i ddim yn cofio, y peth nesaf dwi'n gwybod roedd hi wedi marw," meddai.

Ychwanegodd: "Roeddwn i mewn panig...felly penderfynais gael gwared ar y corff a'i thorri hi i fyny a'i chuddio."

Dywedodd Mr May ei fod yn yfed yn y Skinny Dog yn aml, gan ddweud y byddai'n yfed hyd at wyth peint ar y tro.

Clywodd y llys hefyd ei fod wedi ei gael yn euog o ddwyn, cynnau tanau bwriadol ac yfed a gyrru yn y gorffennol.

Mae'r achos yn parhau.