Cwmni nwyddau pacio'n creu 70 o swyddi yng Nghasnewydd

Edwina Hart/Imperial Park
Image caption Dywedodd Edwina Hart ei bod yn "falch" fod cwmni Essentra'n ehangu i safle newydd ar Imperial Park, Casnewydd

Mae busnes nwyddau pacio yn creu 70 swydd yng Nghasnewydd, wrth ehangu a buddsoddi mewn cyfarpar newydd.

Bydd cwmni Essentra yn dyblu'r nifer o staff sydd ganddyn nhw yn y ddinas.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £143,000 tuag at y fenter.

Daw'r cyhoeddiad flwyddyn ar ôl i'r cwmni dderbyn cyllid busnes gwerth £290,000 er mwyn sefydlu'r safle yng Nghasnewydd.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart: "Rydw i'n falch bod y cwmni wedi dewis Casnewydd ar gyfer y gwariant cyfalaf ychwanegol sylweddol hwn. Bydd y safle bellach yn ganolfan ragoriaeth o fewn y grŵp byd-eang hwn.

"Unwaith eto, mae'n dangos bod Cymru yn lleoliad da ar gyfer cwmnïau ym maes y gwyddorau bywyd."