Achos Pontypridd: Cyn gigydd yn 'benderfynol' o ladd

Christopher May a Tracey Woodford Image copyright Wales News Service
Image caption Mae Christopher May yn gwadu llofruddio Tracey Woodford

Mae llys wedi clywed bod cyn gigydd wedi ymddwyn yn "benderfynol" pan laddodd dynes a thorri ei chorff yn ddarnau.

Mae Christopher May, 50, yn gwadu llofruddio Tracey Woodford, 47, gafodd ei darganfod yn fflat Mr May ym Mhontypridd ym mis Ebrill.

Wrth gloi achos yr erlyniad, dywedodd Roger Thomas QC bod Mr May wedi dweud celwydd yn gyson a'i fod "yn amhosib" ei gredu.

Dywedodd bod Mr May wedi parhau gyda'i fywyd er "yr arogl a'r sefyllfa yn ei fflat" am ddyddiau, a bod yr honiad ei fod yn ceisio amddiffyn ei hun pan laddodd Ms Woodford yn "nonsens".

Dywedodd Malcolm Bishop QC ar ran yr amddiffyniad bod Mr May yn derbyn ei fod wedi lladd Ms Woodford, ond dywedodd os nad oedd y rheithgor yn derbyn ei fod yn amddiffyn ei hun, bod angen iddyn nhw ystyried a oedd Mr May wedi "colli rheolaeth".

"Mae modd esbonio'r peth drwy banig llwyr," meddai.

Mae'r achos yn parhau.