Canolfan Islamaidd: Cyhuddo dyn o ddifrod troseddol

Canolfan Islamaidd y Rhyl Image copyright Google

Mae dyn 38 oed o'r Rhyl wedi cael ei gyhuddo mewn cysylltiad â digwyddiad yng Nghanolfan Ddiwylliannol Islamaidd y dref.

Mae'r dyn wedi ei gyhuddo o ddifrod troseddol a difrod troseddol gyda chymhelliad hiliol neu grefyddol.

Cafodd tân gwyllt eu defnyddio yn y digwyddiad o gwmpas 20:50 ar 11 Tachwedd.

Mae'r dyn wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth, a bydd yn ymddangos yn llys ynadon Prestatyn ar 2 Rhagfyr.

Mae tri person arall - dynes 18 oed, dyn 36 oed a dyn 34 oed - dal ar fechnïaeth tra bod yr heddlu'n ymchwilio.