Cymru (dan 21) 1-1 Rwmania (dan 21)

Wes Burns Image copyright Getty Images
Image caption Wes Burns ddaeth a Chymru'n cyfartal

Fe gollodd Cymru gyfle am fuddugoliaeth nos Fawrth, ar ôl chwarae mwy na hanner y gêm gyda mantais o un chwaraewr ar ol i golwr Rwmania, Laurentiu Branescu gael ei anfon o'r maes am gicio Tommy O'Sullivan.

Roedd yr ymwelwyr ar y blaen wedi dau funud - Ionut Nedelcearu yn rhwydo, ond mewn amodau dychrynllyd, mi sgoriodd ymosodwr Cymru Wes Burns o groesiad hyfryd Declan John.

Mi gafodd tim Geraint Williams sawl cyfle yn yr ail hanner, gyda O'Sullivan yn methu fwy nag unwaith, ac mi darodd Burns y trawst.

Ond wedi pum gêm, dyw Cymru dal heb golli, ac maen nhw'n parhau ar frig y grŵp.

Bydd gêm nesa'r tîm i ffwrdd ym Mwlgaria ar 25 Mawrth, cyn eu hail gêm yn erbyn Rwmania bedwar diwrnod yn ddiweddarach.