Cwmni dronau wedi mynd i'r wal

Dron Image copyright Torquing

Mae cwmni oedd tu ôl i gynllun i ddatblygu a gwerthu dronau bychain oedd yn cario camerau ar gyfer ffilmio wedi mynd i'r wal.

Fe wnaeth 12,000 o fuddsoddwyr dalu arian i'r cwmni er mwyn datblygu dronau Zano Drones yn Noc Penfro, ond fe fethodd y teclynau a gwireddu addewidion gwreiddiol y cwmni tu ôl i'r fenter, Torquing Group.

Roedd y cwmni wedi gobeithio datblygu dronau fyddai'n hedfan yn esmwyth a ffilmio lluniau o safon uchel, ond fe fu problemau gyda'r teclynau o'r cychwyn ac fe wnaeth cyn brif weithredwr y cwmni, Ivan Reedman, ymddiswyddo fel pennaeth dylunio a datblygu o achos rhesymau iechyd yn gynharach y mis hwn.

Mewn datganiad ddydd Mercher, dywedodd aelodau bwrdd Torquing Group eu bod wedi ystyried dichonoldeb agweddau technegol, masnachol ac ariannol cynllun Zano, a'r unig ddewis oedd diddymu'r cwmni yn anffodus.

Ychwanegodd aelodau'r bwrdd eu bod wedi "siomi'n fawr gyda chanlyniad cynllun Zano" a'u bod yn diolch i bawb oedd wedi eu "cefnogi yn ystod y cyfnod anodd diweddar".

Image copyright Torquing