Carwyn Jones: Dim croeso nawr i Trident yng Nghymru

Trident Image copyright PA

Mae Carwyn Jones wedi gwneud tro pedol a bellach dyw e ddim yn dymuno gweld llongau tanfor niwclear yn cael cartref yng Nghymru.

Dywedodd y Prif Weinidog yn 2012 y byddai croeso i'r llynges sy'n cario taflegrau Trident petaen nhw'n gorfod gadael yr Alban.

Mewn dadl yn y Senedd ddydd Mercher, gofynnwyd i Mr Jones ai dyna oedd ei neges erbyn hyn.

Dywedodd: "Na, ac nid dyna fydd yn digwydd yn y dyfodol.

"Mae'r system arfau ar hyn o bryd wedi eu lleoli yn Faslane, ond rwy'n gobeithio y bydd yna amser pan nad oes angen i arfau niwclear gael eu lleoli yn unrhyw le - nid ym Mhrydain, yr Unol Daleithiau, Rwsia nac unrhyw le arall yn y byd."

Daeth ei sylwadau mewn dadl wedi ei harwain gan Blaid Cymru. Roedd hi'n galw ar Aelodau Cynulliad i beidio â chefnogi cynlluniau i adnewyddu system niwclear Trident Prydain.

Fe fydd Aelodau Seneddol yn San Steffan yn pleidleisio ar y mater yn 2016. Mae arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, yn erbyn y syniad o adnewyddu Trident tra bo nifer o'i gyd aelodau o blaid.