Prifathrawes yn y gorllewin yn pryderu am iechyd staff

dysgu

Mae prifathrawes ar dair ysgol yn y gorllewin yn pryderu am iechyd ei staff oherwydd pwysau gwaith cynyddol.

Dywedodd Rhianydd James wrth raglen Manylu ar Radio Cymru ei bod yn gwybod am nifer o athrawon sydd wedi cael llond bol ac yn gadael y byd addysg.

Mae'n rhybuddio bydd y rhai sydd ar ôl yn dechrau gwrthod gwneud rhai dyletswyddau.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod ei bod hi'n adeg o her i'r system addysg yng Nghymru, a'u bod yn ymrwymedig o hyd i weithio gyda'r proffesiwn i wneud gwelliannau ac ar yr un pryd i'w cefnogi yn eu gwaith a sicrhau mwy o barch iddynt.

'Y pwysau'n ormodol'

"Mae'r gofynion wedi mynd yn eithriadol i ddweud y gwir," meddai Rhianydd James. "Dw i'n poeni ynglŷn â'n staff i yn yr ysgol - staff cynorthwyol hefyd - oherwydd dw i'n teimlo bod y pwysau yn mynd yn ormodol.

"Chi'n clywed pobl yn siarad ar y tu fas, yn dweud 'o mae'n lyfli bod yn athro chi'n gweithio 9 tan 3, neu 3.30 ac wedyn dod gartref, a chael chwe wythnos o wyliau' - byddai'n fendigedig petai hynny'n wir.

"Ond gyda phwysau ychwanegol trwy'r amser i wneud siŵr bod y cynllunio yn eu lle, i neud siŵr bod y marcio wedi cael ei wneud, asesu ar gyfer dysgu, dw i'n credu falle bod y cyfle i ddefnyddio 'gut instinct' fel athrawon wedi mynd mas drwy ffenest, oherwydd ni'n gorfod ffeindio tystiolaeth i bopeth ac mae'r staff yn treulio oriau ac oriau ac oriau yn ychwanegol i'r oriau gwaith yn treial dal lan gyda hyn i gyd."

Image caption Rhianydd James

Cydbwysedd rhwng byd gwaith a chartref

Mae rhaglen materion cyfoes Radio Cymru Manylu wedi clywed gan athrawon ar draws Cymru bod targedau parhaus, gwaith papur a disgwyliadau wedi mynd tu hwnt i bob rheswm.

Mae Lowri Ellis yn siarad am ei phenderfyniad i adael ei swydd fel athrawes ysgol gynradd yn Ninbych ar ôl 13 mlynedd er mwyn treulio mwy o amser gyda'i theulu. Er mai rhan amser roedd hi'n arfer gweithio, mae swydd llawn amser mewn maes hollol wahanol yn llai o waith, meddai.

"Dwi i'n meddwl achos bod natur y swydd wedi newid yn ystod y blynyddoedd diwethaf o'n i'n gweld bod diffyg cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd cartref ac oedd hwn yn cael effaith negyddol arna i yn bersonol ag ar y teulu," dywedodd Lowri Ellis.

"Rŵan, dw i'n gwneud y gwaith yn y gwaith a dw i'n cael gadael wedyn tan y diwrnod wedyn ac yn bendant mae o wedi cael effaith bositif arna ni yn y cartref - mae pawb i weld yn hapusach."

Mae'r Cyngor Gweithlu Addysg yn cadw cofrestr o holl athrawon Cymru ac yn ôl ffigyrau ganddyn nhw mae ychydig dros ddwy fil wedi rhoi'r gorau i ddysgu yn y pum mlynedd a hanner diwethaf.

Does dim gwybodaeth ar gael ynglŷn â pham ond mae ymchwil diweddar gan yr undebau yn awgrymu mai llwyth gwaith ydy un o'r prif resymau.

Image copyright Cynulliad
Image caption Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC

"Be sy'n creu gofid i ni yw bod cymaint o fewn y proffesiwn yn chwilio am ffordd allan neu yn torri oriau neu roi lan cyfrifoldebau oherwydd bod gormod o lwyth gwaith gyda nhw," meddai Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC.

"Dangosodd arolwg llwyth gwaith y gwnaethon ni ei gyhoeddi yn gynharach eleni bod dros 90% o'r aelodau wnath ymateb yn dweud bod ganddyn nhw lwyth gwaith gormodol a bod hynny'n effeithio ar morâl yn ofnadwy."

'Angen mwy o athrawon'

Mae Aelod Cynulliad Gogledd Cymru, y Democrat Rhyddfrydol Aled Roberts, am i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael a'r broblem cyn i addysg plant ddechrau dioddef.

"Be' sy'n fy mhoeni i ydi bod niferoedd plant ysgol yn codi ar hyn o bryd. Mae 'na gynnydd eitha' sylweddol ac mi fydd hynny yn symud yn fuan iawn o'r sector cynradd i'r sector uwchradd," meddai.

"Mae 'na ostyngiad o ryw 20% wedi bod yn y nifer o athrawon sy' wedi cael eu hyfforddi dros y degawd ola' ma ac mewn datganiad eithaf diweddar dywedodd Llywodraeth Cymru nad ydyn nhw yn gweld bod 'na angen cynyddu'r niferoedd achos bod nhw am ostwng y niferodd sy'n gadael y proffesiwn a gweld mwy yn dod 'nôl i'r proffesiwn. Ond dw i'm yn credu bod sail i'r farn yna."

'Lleihau'r llwyth gwaith'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

"Rydyn ni wedi lleihau nifer y lleoedd hyfforddi athrawon yng Nghymru oddi ar 2006 oherwydd, yn ôl y data, roedd llawer mwy o athrawon yn cael eu hyfforddi na'r nifer oedd yn llwyddo i gael swydd.

"Rydyn ni'n cynllunio'n ofalus ar gyfer anghenion ein system addysg drwy bennu nifer y lleoedd hyfforddi athrawon ac mae ein cyfradd ar gyfer swyddi gwag, sy'n gyson isel, yn dangos bod hyn yn gweithio.

"Rydyn ni'n cydnabod ei bod hi'n adeg o her i'r system addysg yng Nghymru. Rydyn ni'n ymrwymedig o hyd i weithio gyda'r proffesiwn i wneud gwelliannau ac ar yr un pryd i'w cefnogi yn eu gwaith a sicrhau mwy o barch iddynt."

Manylu, BBC Radio Cymru, dydd Iau 19 Tachwedd, 12:30; ail-ddarllediad dydd Sul 22 Tachwedd, 13:30.