Blaenwr Cymru Luke Charteris yn arwyddo i Gaerfaddon

Luke Charteris Image copyright PA

Mae blaenwr ail reng Cymru, Luke Charteris, ar fin ymuno â Chaerfaddon o Racing 92 ar gytundeb tair blynedd.

Gadawodd Charteris, sy'n 32 oed, Dreigiau Casnewydd Gwent i fynd i Perpignan yn 2012, cyn arwyddo gyda Racing 92 yn 2014. Roedd ei gytundeb yn dod i ben ddiwedd y tymor.

Cafodd hefyd drafodaethau gyda chlwb Caerloyw, ac roedd y Dreigiau hefyd yn awyddus iddo ddychwelyd i Rodney Parade.

'Ergyd enfawr'

Mae mewnwr Cymru a Racing, Mike Phillips, yn meddwl y bydd colli Charteris yn ergyd i'r clwb o Ffrainc.

"Os ydyn ni'n colli ei dalent o, felly mae'n amlwg yn ergyd enfawr. Mae'n un o chwaraewyr gorau Cymru ar y funud," meddai. "Does dim llawer o fechgyn chwe troedfedd naw modfedd sy'n gallu taclo cymaint ag e, mae'n gwneud 18 neu 20 tacl y gêm.

"Mae'n cario peli, mae'n dda'n y sgrym, mae'n gallu gwneud popeth ar y cae rygbi ac mae'n athletwr gwych."

Dywedodd hyfforddwr y Dreigiau Kingsley Jones y bydden nhw'n hoffi ail-arwyddo Charteris, sydd wedi cael 62 cap i Gymru, ond roedd yn ofni y byddai clybiau o Loegr a Ffrainc yn cynnig mwy o arian.

Mae gan Caerfaddon eisoes un clo o Gymru yn eu carfan. Ymunodd Dominic Day â nhw'n 2012 ac arwyddodd estyniad i'w gytundeb fis Ionawr eleni.

Yn gynharach yn yr hydref, ceisiodd y clwb arwyddo rheng-ôl y Dreigiau Taulupe Faletau, ond cafodd ei atal gan hyfforddwr Cymru Warren Gatland.

Mae maswr Cymru, Rhys Priestland hefyd yng Nghaerfaddon ac yn canolbwyntio ar chwarae i'w glwb ar ôl cymryd egwyl o rygbi rhyngwladol.