Saith Diwrnod

Twr Eiffel

Catrin Beard yn trafod y pynciau sydd wedi denu ei sylw yn ei hadolygiad wythnosol o'r wasg Gymraeg a'r blogiau.

Mae meddyliau y rhan fwyaf ohonom ym Mharis y dyddiau hyn fel y dywed Menna Elfyn yn y Western Mail.

Ac yn ôl Dylan Llŷr ar ei flog Anffyddiaeth, erbyn hyn mae'n anodd canfod yr egni i ddychryn am ddigwyddiadau fel y terfysg ym Mharis. Maen nhw'n rhy gyfarwydd o lawer yn ddiweddar.

Fel y dywed Menna, mae brwydrau creulon y blynyddoedd diwethaf wedi dod yn nes adre atom. Mae ein mwynhad o ddiwylliant, boed yn bêl-droed neu'n gerddoriaeth yn wrthun gan rai ac wrth gwrs mae'n anodd i ni ddeall bod y fath feddylfryd yn bodoli lle mae lladd yn cael ei gyfiawnhau.

Ac mae'n holi beth nesaf? Dyna sydd ar feddyliau llawer ohonom wrth weld y gwleidyddion yn hogi tafodau ac yn datgan eu penderfyniad i drechu'r gelyn.

Image copyright Getty Images

Yn ôl Dylan Iorwerth yn Golwg, rhaid i wleidyddion y Gorllewin fod yn ofalus gyda geiriau fel 'rhyfel' a gwylio rhag bwydo'r trais yn hytrach na'i dawelu.

Un o brif fwriadau IS meddai ydi chwalu'r tir llwyd lle mae mwslemiaid a 'christnogion' yn cwrdd, er mwyn pegynnu'n llwyr a hyrwyddo'r syniad o 'jihad'.

'Pwyllo'

A chytuno a hyn mae Dylan Llŷr, sy'n dweud bod gwylltio'r gorllewin a'u pryfocio i ymateb yn fyrbwyll yn strategaeth bwrpasol. Rhyfel 'clash of civilisations' rhwng y 'gorllewin' ac 'islam' yw union obaith y Wladwriaeth Islamaidd.

Wrth reswm, dywed, dylem bwyllo ac osgoi llyncu'r abwyd.

Ac yn yr un modd, dywed, maen nhw'n awyddus i gynhyrfu rhagfarn yn erbyn mwslemiaid yng ngwledydd y gorllewin, er mwyn ein polareiddio.

Y peth olaf y mae'r Wladwriaeth Islamaidd am ei weld yw mwslemiaid wedi'u cymhathu'n ddedwydd yng ngwledydd democrataidd, rhyddfrydol a seciwlar Ewrop.

Ystyrier y targedau: bwytai a theatr, ar nos Wener, yn orlawn o bobl ifainc o bob tras a chefndir yn cymysgu'n gosmopolitanaidd braf. Mae troi 'brodorion' Ewrop yn erbyn y lleiafrifoedd mwslemaidd, a vice versa, yn rhan hanfodol o'u strategaeth.

Dagrau pethau yw ei bod yn debygol o fod yn weddol llwyddiannus; ac mae hynny'n cael ei atgyfnerthu yn Golwg sydd wedi bod yn sgwrsio gydag imam o Abertawe, sy'n dweud bod ofn a phryder ymysg y gymuned fwslemaidd yn y ddinas, ac mae'n pryderu nad yw'r cyfryngau'n gwneud digon i ddarbwyllo pobl nad yw'r gymuned yn fygythiad, ac nad oes gan yr ymosodiadau ddim byd i'w wneud â chrefydd Islam.

Gwersi rhyfeloedd y gorffennol?

Tynnu cymhariaeth rhwng y rhyfel newydd hwn a hynt y milwyr aeth i Ffrainc ganrif yn ôl mae Alan Llwyd mewn dwy soned yn Golwg.

Fel dywed erthygl olygyddol y cylchgrawn, mae'n ymddangos bod y gwersi o'r rhyfeloedd hynny a greodd amharodrwydd i godi arfau ac anfon pobl i ymladd yn erbyn ei gilydd wedi pylu yn ystod y ganrif.

Ers blwyddyn a rhagor buom yn talu gwrogaeth,

i'r rhai ifainc a aeth yn ffraeth eu lluoedd i Ffrainc;

heidio i'r gad, union ganrif yn ôl ar anogaeth

y seneddwyr a'u hysiai i'r lladdfa o esmwythdra'u mainc

Dywedodd rhywun bryd hynny fod pob un o'r llusernau

yn diffodd fesul un drwy Ewrop. Ond daeth rhyfel gwaeth

na'r rhyfel a anfonodd yr ifanc i fil o uffernau;

y rhyfel a gynhelir ar awyren, ar drên neu ar draeth.

Mor wahanol yw'r Trydydd Rhyfel. Y rhyfel oer hwn,

a dorrodd y bedd lle claddwyd diniweidrwydd y byd;

Y llofruddio digydwybod, oer â bom neu â gwn,

lle mae rhai yn gwrando ar grŵp, neu yn rhodio'r stryd;

ac mae'r lampau eto, wrth i ddyn ei ddinistrio'i hun,

ym Mharis y meirwon yn diffodd o un i un.