Cwpan Her Ewrop: Gleision 20-32 Harlequins

Ray Lee-Lo Image copyright Huw Evans picture agency

Cafodd y Gleision eu trechu gan Harlequins nos Iau i golli eu gêm gyntaf yn Ewrop y tymor yma wrth i Barc yr Arfau roi teyrnged i arwr y Crysau Duon, Jonah Lomu.

Fe gafodd funud o gymeradwyaeth ei gynnal cyn y gic gyntaf i gofio am gyn-asgellwr y Gleision, a'r tîm cartref gafodd y gorau o'r chwarae yn yr hanner cyntaf wrth iddyn nhw fynd i'r egwyl 6-3 ar y blaen.

Ond roedd Harlequins yn llawer rhy gryf yn yr ail hanner, wrth i Tim Visser ag Ollie Lindsay-Hague sgorio ceisiau o fewn 90 eiliad i'w gilydd cyn i Charlie Walker ychwanegu trydydd.

Er i gais gosb a chais Sam Hobbs roi gobaith i'r Gleision, fe welodd Matthew Rees gerdyn coch am stamp, ac fe wnaeth cais Danny Care selio'r fuddugoliaeth.

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Fe gafodd funud o gymeradwyaeth ei gynnal cyn y gic gyntaf i gofio am Jonah Lomu