Aldershot 0-1 Wrecsam

wes Image copyright Getty Images

Roedd gôl gan Wes York yn yr ail hanner yn ddigon i Wrecsam, wrth iddyn nhw gipio'r pwyntiau yn Aldershot.

Roedd tasg Wrecsam dipyn yn haws ar ôl i chwaraewr canol cae Aldershot, Jake Gallagher, gael ei ddanfon o'r maes - ar ôl iddo droseddu ddwywaith o fewn chwe munud.

Mae Wrecsam wedi ennill pedair gem yn olynol, ac maen nhw wedi codi i'r chweched safle yn y Gynghrair Genedlaethol.