Casnewydd 0-0 Yeovil

casnewydd Image copyright Huw Evans picture agency

Mae Casnewydd a Yeovil wedi rhannu pwynt yr un yn eu brwydr ar waelod Adran 2.

Cafodd Scott Barrow gyfle da i'r tîm o Went, ond roedd hi'n brynhawn da i amddiffyn Yeovil.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Casnewydd wedi bod yn ddiguro ers pum gêm, ac maen nhw'n aros pedwar pwynt o flaen Yeovil yn y tabl.