Cwpan Pencampwyr Ewrop: Clermont Auvergne 34-29 Gweilch

clermont Image copyright Huw Evans picture agency

Mae'r Gweilch wedi achub dau bwynt bonws yn Ffrainc ar ôl ildio ugain pwynt yn yr hanner cyntaf.

Roedd yr ymwelwyr yn wynebu crasfa wrth i Clermont fwynhau mantais o 20-3 ar yr egwyl.

Ond yn ail hanner roedd 'na adfywiad dramatig gan y Gweilch, wrth iddyn nhw sgorio pedwar cais.

Sgoriodd Justin Tipuric ac Eli Walker gais yr un - ac yna fe ddaeth dau gais hwyr gan

Sam Parry a Tom Haverfield, gan sicrhau na fydd y Gweilch yn dychwelyd i Abertawe yn waglaw.