Pysgotwyr yn galw am help ariannol gan y llywodraeth

pysgod Image copyright Reuters

Mae Cymdeithas Pysgotwyr Cymru wedi galw am fwy o gymorth ariannol gan y llywodraeth.

Dywedodd eu llefarydd Siôn Williams bod yn "diwydiant cig a llaeth yn derbyn llawer mwy o gymorth 'na physgotwyr".

Fe ddaeth sylwadau'r Gymdeithas ar raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru wrth i rai o'r aelodau ymweld â marchnad bysgod Llundain.

Mae'r ymweliad yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru er mwyn helpu'r pysgotwyr "ychwanegu gwerth" at y cynnyrch o Gymru ac er mwyn dysgu mwy ynglŷn â chyflwyno a marchnata pysgod Cymreig.

Yn ôl y gymdeithas mae angen cefnogaeth arnynt er mwyn hyrwyddo eu cynnyrch.

Dywedodd Mr Williams bod prisiau isel a chostau cynyddol yn ystod y 10-15 mlynedd diwethaf yn golygu bod pysgotwyr yn cael amser caled.