Diogelu 79 o swyddi ar safle dur Caparo yn Wrecsam

Caparo

Mae 79 o swyddi wedi eu diogelu ar safle cwmni prosesu dur Caparo yn Wrecsam.

Fe aeth y safle i ddwylo'r gweinyddwyr fis diwethaf, gan roi 400 o swyddi mewn perygl ar draws y DU.

Mae'r safle wedi'i werthu i gwmni Rcapital.

Fe gafodd safle Caparo yn Nhredegar, Blaenau Gwent, ei gau pan aeth y cwmni i'r wal - gan golli 24 o swyddi yn y broses.