Galw heddlu arfog i ddigwyddiad

Fe gafodd heddlu arfog eu galw i ddigwyddiad yng Nghaerdydd yn gynnar fore Mawrth, yn ôl Heddlu'r De.

Aeth swyddogion i ardal Y Sblot wedi i'r heddlu dderbyn gwybodaeth, meddai llefarydd ar ran y llu.

Fe gafodd dyn 25 oed ei arestio ar amheuaeth o fod â gwn yn ei feddiant. Mae'n cael ei gadw yng ngorsaf heddlu Bae Caerdydd.

Yn y cyfamser mae plismyn yn chwilio eiddo yn Gold Street ac mae'r ymchwiliad yn parhau.

Fe gafodd rhan o Ffordd Casnewydd ei chau yn hwyr neithiwr am 23:30 wrth i'r heddlu ddechrau'r ymchwiliad.

Ni chafodd unrhyw un eu hanafu, ac mae'r digwyddiad bellach wedi dod i ben.

Cadarnhaodd y llefarydd na fu'r cyhoedd mewn unrhyw berygl yn ystod y digwyddiad.