Heddlu'n ymchwilio i lofruddiaeth

Tŷ Trem-y-cwm Image copyright Google
Image caption Cafodd yr heddlu eu galw i fflatiau Tŷ Trem-y-cwm yn Y Beddau ddydd Mawrth

Mae'r heddlu'n ymchwilio i lofruddiaeth wedi i olion dynol gael eu darganfod ger bloc o fflatiau brynhawn Mawrth.

Cafodd yr heddlu eu galw i fflatiau Tŷ Trem-y-cwm yn Y Beddau ger Llantrisant am 13:00.

Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Paul Hurley: "Mae'r farwolaeth yn amheus.

"Y flaenoriaeth i ni yw adnabod y corff a darganfod sut y bu farw'r unigolyn.

"Mae'n bwysig ein bod ni'n siarad ag unrhywun allai gynnig gwybodaeth i ni."

Cafodd yr ardal ei chau a bydd post mortem yn cael ei gynnal. Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio 101.