Cymru 2016: Amser am newid?

senedd
Image caption A fydd Llafur yn talu'r pris am lywodraethu "hirhoedlog, di-ddychymyg"?

Mae Cymru Fyw wedi mynd ati i holi rhai o wynebau cyfarwydd Cymru fel rhan o gyfres o erthyglau arbennig ar ddechrau blwyddyn newydd.

Felly ym mha gyflwr mae gwleidyddiaeth Cymru ar drothwy blwyddyn etholiad? Yma, mae dau o newyddiadurwyr amlycaf Cymru yn cael dweud eu dweud:


Guto Harri - 'Gwendid sylfaenol ein gwleidyddiaeth'

Image copyright Getty Images

"Sut siwrne oedd hi fyny'r M4?," medde cyfaill yn yr iaith fain dros ginio hwyliog cyn gêm derfynol Cwpan Rygbi'r Byd [y llynedd].

"Dim syniad," medde'r Cymro, mewn acen gref o Gaerdydd. "Fe ddaetho' ni mewn hofrennydd." Fe chwarddon ni' gyd yn gynnes, ond ga'th y rhan fwyaf ohonon ni sioc.

I fod yn deg, anaml y clywn ni'r fath gyfeiriadau gan Gymry. Dyw pobl fusnes llwyddiannus ddim yn frith i'r gorllewin o Glawdd Offa ac ychydig iawn ohonon ni sy'n teithio mewn ffasiwn ffyrdd.

Mantais amlwg felly yw bod ein traed - fel arfer - yn gadarn ar y ddaear. Ond trwy werthu cig mewn crwst wnaeth y Cymro dan sylw ei ffortiwn, ac allai neb ei gyhuddo o golli ei ben na'i wreiddiau.

Pam fod gennyn ni cyn lleied o'r hil hanfodol yna o gyfoeth-gynhyrchwyr? Ac wrth edrych ymlaen ar ddechrau blwyddyn newydd, beth allwn ni wneud i ddenu neu gynhyrchu mwy?

Heb ateb call i'r cwestiwn hwnnw, mae yna wendid sylfaenol yn ein gwleidyddiaeth ni. Ac mae diffyg gweledigaeth yn y maes yma wedi ein llethu ni ers tro byd.

Angen arweinyddiaeth gadarn

Dros y misoedd nesaf fe fydd holl bleidiau'r Cynulliad yn gwneud eu pitch i gael rhedeg Cymru am y bum mlynedd nesaf.

Mae'r byd o'n cwmpas yn un cythryblus - ansicrwydd sylfaenol ynglŷn â'n perthynas gyda'r Undeb Ewropeaidd, terfysg anystywallt, mewnfudo ar raddfa aruthrol, cystadlu ffyrnig am fasnach, swyddi a chyfleoedd.

Mae dirfawr angen, felly, am arweinyddiaeth gadarn a chreadigol a ffocws, uwchlaw pob dim ar greu golud yn hytrach na'i drethu a'i ddosbarthu.

Dagrau pethau yng Nghymru erioed yw ein bod yn gwario gymaint gwell na 'run ni'n creu. Dyw'r diwylliant gwleidyddol ddim yn groesawgar iawn i gyfoeth.

Mae ffrwyno, godro a chwyno yn dod llawer haws na mentro, neu hyd yn oed achub cam y rheiny sy'n cymryd risg ar ein rhan. Ac wedi degawdau o bleidleisio ar sail patrwm truenus o gyson, mae'n rhaid rhoi'r rhelyw o'r bai am hynny ar ysgwyddau'r blaid Lafur.

Gallwn, fe allwn ni ymhyfrydu inni ethol yr Aelod Seneddol Llafur cyntaf erioed pan ga'th Keir Hardie ei lwyfan ym Merthyr. Roedd Nye Bevan yn un o ffigurau mawr ei ganrif yng ngwleidyddiaeth San Steffan - er gwaetha' ei ragrith.

Image caption Un o ffigyrau mawr y ganrif er gwaetha' ei "ragrith", medd Guto Harri

A heb Neil Kinnock fydde Tony Blair fyth wedi llwyddo i droi plaid brotest y chwith yn beiriant etholiadol mor effeithiol.

Lle mae'r sêr?

Ond a yw tuedd Cymru i ethol aelodau Llafur dro ar ôl tro am ddegawdau wedi dwyn ffrwyth digon blasus a digonol i ddiwallu ein gwir anghenion?

Mae'n warthus nad oedd un Cymro na Chymraes yn y ras am arweinyddiaeth y Blaid honno rai misoedd yn ôl - yn enwedig gan fod y gystadleuaeth mor wan. Lle mae'r sêr? Lle mae'r llog ar fuddsoddiad arswydus o hir mewn gwleidyddiaeth un blaid?

Falle nad yw pleidiau eraill Cymru yn haeddu cyfle i ddal yr awenau, ond mae dirfawr angen iddyn nhw roi dewis go iawn inni fis Mai nesaf, a rhaid i ni - os bosib - fod yn agored i atebion gwahanol i'r hen gwestiynau fu'n ein pigo yn ddi-ddychymyg ers llawer rhy hir - tlodi, salwch, diffyg cyrhaeddiad, prinder gwaith a'r rhwystredigaeth anochel o fod cymaint ar drugaredd y sector cyhoeddus.

Mae Carwyn Jones yn ddigon abl, ac mae'n taeru bod ganddo egni ac optimistiaeth am y dyfodol. Dwi wedi ei glywed yn dadlau hefyd nad yw ei blaid yn cymryd Cymru yn ganiataol.

Gobeithio eleni y gallan nhw brofi hynny, neu y gwelwn ni blaid neu bleidiau eraill yn dangos bod pris i'w dalu am lywodraethu hirhoedlog, di-ddychymyg.


Tweli Griffiths - 'Dadrithiad, y ffenomen wleidyddol'

Un peth, ac un peth yn unig, dwi'n ei gofio o'r ychydig astudio wnes i o gymdeithaseg ym Mhrifysgol Aber. Alienation, sef dadrithiad.

Yn amlwg, mae'n ffenomen sy' gyda ni ers amser maith, ond weithiau, yn y byd gwleidyddol, mae'n codi ei ben ac yn siglo'r drefn. A dyna sy' wedi digwydd yn ystod y blynyddoedd diwetha'.

Dadrithiad oedd yn gyfrifol i raddau helaeth mae'n siŵr, am fuddugoliaeth ysgubol UKIP yn Etholiadau Ewrop yn 2014, pan gawson nhw fwy o gefnogaeth na Llafur a'r Torïaid. Ac ym mis Medi'r flwyddyn honno, daeth yr Alban yn agos at bleidleisio dros annibyniaeth - gan achosi panig llwyr yn nghoridorau'r sefydliad Seisnig, canolig, yn San Steffan.

Roedd pawb yn disgwyl i'r un chwalfa mewn patrymau pleidleisio arwain at senedd grog yn Etholiad Cyffredinol 2015. Mae'n debygol mai ar Lafur dan Miliband y mae'r bai pennaf am fuddugoliaeth Cameron - ac fe ddangosodd aelodau'r blaid eu rhwystredigaeth trwy ethol Jeremy Corbyn fel eu harweinydd. Y tir canol, traddodiadol, saff a di-ddychymyg, yn cael ei wrthod unwaith eto.

Am faint wneith hyn barhau? Welwn ni fwy o seiliau'r sefydliad yn cael eu siglo eleni?

Mae'r SNP eisoes wedi ysgubo pob plaid arall o'r neilltu yn yr Alban. Does dim lle i gredu y bydd eu gafael ar yr etholwyr yn llacio yn yr etholiadau i Senedd yr Alban ym mis Mai chwaith.

Image caption "Nid annibyniaeth oedd yn denu pobl at yr SNP yn Glasgow"

Yn wir, os na fydd 'na symud ar yr addewidion o ddatganoli pellach, posib iawn bydd refferendwm arall ar yr agenda hefyd - ac yn arbennig petai Prydain yn pleidleisio i adael y gymuned Ewropeaidd.

A beth am Gymru felly? Fydd y patrymau newydd o wleidyddiaeth i'w gweld yn etholiad y Cynulliad ym mis Mai? Mor belled, mae'r patrwm wedi tueddu bod yn wahanol beth bynnag, i'r hyn a geir ar lefel Brydeinig. Plaid Cymru sy'n elwa fwya o hynny - mae tipyn mwy o gefnogaeth iddyn nhw mewn etholiadau Cymreig.

Ond mae lle i amau bod gwleidyddiaeth Cymru yn mynd yn debycach i Loegr. Yn yr Etholiad Cyffredinol, er enghraifft, cafodd Plaid Cymru lai o gefnogaeth nag UKIP - 12.1% o gymharu a 13.6%. Anhygoel. Ac mae darogan y gallai UKIP gael hyd at naw sedd ym Mae Caerdydd ym mis Mai.

Pleidlais brotest

Pam bod Plaid Cymru wedi methu elwa ar y dadrithiad sy'n amlwg trwy Brydain gyfan? Onid y blaid radical hon yw'r cartref naturiol i'r rhai sy'n cefnu ar y ddwy blaid fawr, neu ydy hi hefyd, bellach, yn cael ei gweld yn rhan o'r sefydliad y mae cymaint o bobl wedi ei siomi ganddo?

Mae'n amlwg fod yna'r awch yng Nghymru, fel yng ngweddill yr ynysoedd hyn, i ddefnyddio pleidlais fel protest.

Cafwyd dadansoddiad o'r Etholiad Cyffredinol diwetha' gan arbenigwr o America, ar gais rhaglen 'Panorama'. Sylwodd ar un peth diddorol iawn. Nid annibyniaeth oedd yn denu pobl at yr SNP yn Glasgow, a doedd a wnelo Ewrop a mewnfudo fawr ddim i'w wneud â'r gefnogaeth i UKIP yn Lloegr. Yn hytrach, roedd pobl yn troi at y pleidiau yma oherwydd tlodi, anobaith - a dadrithiad felly - â'r pleidiau eraill.

Piti na faswn i wedi talu mwy o sylw i alienation wrth astudio ar gyfer fy ngradd. Byddai'n sicr yn talu ffordd i'r pleidiau wneud hynny eleni.

Straeon perthnasol