Cwmni drysau'n creu 260 o swyddi yn Sir Caerffili

Drws Image copyright Getty Images

Mae cwmni cynhyrchu drysau wedi cyhoeddi y bydd estyniad yn cael ei godi fydd yn golygu creu 260 o swyddi.

IG Doors sy'n adeiladu cyfleuster cynhyrchu newydd 18,000 medr sgwâr yn Oakdale, Sir Caerffili.

Dywedodd y cwmni y byddai'r datblygiad yn diogelu 140 o swyddi ac yn cynyddu nifer eu staff i 400 yn y pen draw.

Mae'r gwaith yn dechrau ar y datblygiad ddydd Mercher a dywedodd y rheolwr gyfarwyddwr Mark Pulman fod hwn yn "fuddsoddiad sylweddol".

Llywodraeth Cymru sydd wedi cyfrannu £1m.

Mae'r cwmni yn cyflenwi drysau i'r diwydiant adeiladu tai ac mae safle eisoes yng Nghwmbrân.

Ychwanegodd Mr Pulman: "Mae hwn yn ddatblygiad mawr tymor hir yn y rhanbarth ac mae'n gyffrous i ni fod yn rhan ohono."