Sêl bendith i ysgol Gymraeg newydd Abertawe

Lon las Image copyright Google

Mae cynllun i adeiladu ysgol Gymraeg newydd yn Abertawe wedi derbyn sêl bendith gan Lywodraeth Cymru.

Gall y cynllun £9.7m i adeiladu campws newydd Ysgol Gynradd Gymraeg Lôn Las nawr fynd yn ei flaen.

Bydd cost yr ysgol yn cael ei rannu rhwng Cyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru, a'r bwriad yw i ddisgyblion ddechrau yn yr ysgol newydd ym mis Awst 2017.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Huw Lewis, bod y buddsoddiad yn "rhoi'r cyfleoedd addysgol gorau" i ddisgyblion ac yn "sicrhau bod dysgu yn digwydd mewn "adeiladau sy'n ysbrydoli".