Teyrngedau i Sian Pari Huws

Sian Pari Huws

Bu farw'r ddarlledwraig Sian Pari Huws yn 55 oed. Roedd ganddi ganser.

Yn wreiddiol o Gilgwri ar Lannau Mersi fe gafodd ei haddysg yn Ysgol Ramadeg y Merched, Cilgwri.

Y tro cyntaf iddi fyw yng Nghymru oedd pan ddaeth i astudio ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth cyn symud wedyn i weithio i'r BBC yng Nghaerdydd fel newyddiadurwraig ar ddechrau'r 1980au.

Roedd yr un mor gyffyrddus yn darlledu yn Gymraeg a Saesneg - treuliodd gyfnod yn byw yng Nghaerdydd yn cyflwyno Good Morning Wales ar BBC Radio Wales cyn dychwelyd i'r gogledd i gyflwyno Good Evening Wales o Fangor.

Bu hefyd yn cyflwyno'r Post Prynhawn ar Radio Cymru yn achlysurol, ynghyd â nifer o raglenni eraill.

Image caption Bu farw Sian Pari Huws yn 55 oed

Llais cyfarwydd

Bu'n gweithio'n llawrydd i nifer o gwmnïau dros y blynyddoedd fel cyflwynydd, cynhyrchydd a hyfforddwraig ym myd y cyfryngau.

Roedd yn llais cyfarwydd ar Radio 3 yn cyflwyno cyngherddau Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Canwr y Byd Caerdydd a digwyddiadau cerddorol eraill i Radio Cymru, a rhaglen uchafbwyntiau'r Eisteddfod Genedlaethol ar Radio Wales.

Ganol mis Tachwedd fe gafodd y rhaglen olaf iddi ei gwneud ei darlledu ar Radio Cymru - rhaglen yn dilyn ymweliad Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC â Phatagonia.

Cafodd y rhaglen ei recordio ym Mryn Meirion ym Mangor - ei chartref darlledu.

Yn ferch i gapten llong, roedd y môr yn ei gwaed ac roedd yn hwylwraig o fri.

Fe gyflwynodd gyfres ar S4C - 'Hanes Cymru a'r Môr" - yn dilyn hanes morwrol y wlad.

Mae'n gadael partner, Geraint, ei mam Eira, ei brodyr Alun a Geraint a'u teuluoedd.

Mae rhai o benaethiaid BBC Cymru wedi rhoi teyrngedau iddi.

Dywedodd Sian Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg, BBC Cymru:

"Mi wnaeth Sian gyflwyno nifer fawr o raglenni i BBC Cymru, a be sy'n taro rhywun ydi'r amrywiaeth a'r gallu oedd ganddi i droi ei llaw mor rhwydd at wahanol feysydd, a hynny yn y ddwy iaith.

"Ond dwi'n credu mai am safon ei newyddiaduraeth y bydd hi'n cael ei chofio yn bennaf. Roedd yn holwraig braff a chadarn, mi oedd hi'r un mor gyfforddus yn holi gwleidyddion amlwg ag yr oedd hi'n holi pobl ar y stryd ym Mangor. Mi wnaeth hi ennyn parch enfawr ymhlith y timau cynhyrchu fu'n gweithio hefo hi ac fe fyddan nhw yn cofio'n annwyl iawn amdani.

"Mae'n cofion ni fel cydweithwyr yn mynd at y teulu."

Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies:

"Roedd angerdd Sian am Gymru, a'i phobl, a'i diwylliant cyfoethog yn disgleirio trwy ei gwaith. Roedd yn newyddiadurwr nad oedd ofn codi gwrychyn, ond yn gefnogwr brwd i'n celfyddydau ac i'n iaith.

"Byddwn yn colli ei chynhesrwydd, ei hiwmor a'i chwilfrydedd diddiwedd. Mae ein cofion a'n cydymdeimlad dwysaf wrth gwrs gyda'i theulu heddiw."