Dŵr Cymru yn gobeithio adfer dŵr i 500 o gartrefi

Caerffili Image copyright Dŵr Cymru

Mae Dŵr Cymru yn gobeithio adfer cyflenwad dŵr i hyd at 500 o gartrefi yn Sir Caerffili erbyn min nos dydd Iau.

Fe gafodd y bibell ei difrodi gan gontractwr yn gweithio i Cyfoeth Naturiol Cymru ddydd Mercher, ac mae'n effeithio ar gartrefi yn ardaloedd Abercarn, Pontycymer ac Ynysddu.

Dywedodd Dŵr Cymru bod ei weithwyr wedi gweithio trwy'r nos i gywiro'r broblem.

Mae yna amcangyfrif fod cost y difrod rhwng £300,000 a £500,000.