Gwrthdrawiad y Coed Duon: Dynes wedi marw

ambiwlans

Mae dynes 70 oed wedi marw oherwydd gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar yr A4048 ger y Coed Duon tua 10:30.

Cafodd gyrrwr car Volvo a theithwraig yn y car eu cludo i Ysbyty'r Tywysog Charles, ond bu farw'r ddynes yn ddiweddarach.

Cafodd gyrrwr car Toyota Yaris anafiadau difrifol i'w goes a chafodd e a dwy ddynes oedd yn teithio gydag e eu cludo i Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd.

Mae'r ffordd ar gau.