Achos heddweision: Rheithgor yn cael eu hanfon adref

Michael Stokes a Stephen Phillips Image copyright Wales News Service
Image caption Mae'r rheithgor yn ystyried dyfarniad yn achos Michael Stokes a Stephen Phillips

Mae'r rheithgor yn achos ditectif a chyn-heddwas ar gyhuddiad o ddwyn £30,000 mewn cyrchoedd heddlu yn ystyried eu dyfarniad.

Cafodd y rheithgor eu hanfon adref ddydd Iau a byddant yn ailymgynnull fore Gwener am 10:00 am.

Gwadodd y Ditectif Gwnstabl Michael Stokes, 35 oed o Lyn-Nedd, a Stephen Phillips, 47 oed o Abertawe, eu bod wedi dwyn arian o sêff ym Mhenlan, Abertawe, yn 2011.

Yr wythnos hon cafodd y rheithgor gyfarwyddyd i gael heddwas arall yn ddieuog o ddwyn.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod yr arian wedi'i gymryd yn ystod neu ar ôl cyrchoedd ar dai bedair blynedd yn ôl.

Pederfynodd yr heddlu beidio gweithredu ymhellach yn erbyn y rheini oedd yn byw yno a chafodd Joedyn Luben ei arian yn ôl ar ffurf siec.

Ond cwynodd Mr Luben fod y swm ar y siec yn llai na'r swm gafodd ei gymryd.

Gwadodd y cyn-Dditectif Sarjant Phillips, ei fod wedi cymryd yr arian pan oedden nhw'n ei gyfri.

A dywedodd Mr Stokes mai jocian oedd pan ddywedodd wrth gydweithiwr ei fod wedi cymryd arian.