Gwenno yn cipio'r Wobr Cerddoriaeth Gymreig

Gwenno

Gwenno ydi enillydd y Wobr Cerddoriaeth Gymreig am ei halbwm unigol gyntaf, Y Dydd Olaf.

Fe ddaeth hi i'r brig mewn rhestr fer o 15.

Enillodd Gwenno Saunders wobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod hefyd.

Mae'r gantores yn dod o Gaerdydd ac yn gynhyrchydd cerddoriaeth, DJ a chyflwynydd radio.

Roedd y rhestr fer eleni yn cynnwys mwy o gyhoeddiadau Cymraeg nag o'r blaen - gyda thri yn y 15 olaf.

Mae Y Dydd Olaf wedi ei ryddhau ar label Peski ac mae'r holl ganeuon yn Gymraeg oni bai am un gân sy'n Gernyweg.

Ymysg y grwpiau eraill ar y rhestr oedd Catfish and the Bottlmen, H Hawkline, Zefur Wolves a Paper Aeroplanes.

Dywedodd John Rostron, un o drefnwyr y gystadleuaeth: "Roedd yna gonsensws llwyr gan ein beirniaid mai albwm Gwenno oedd y gorau allan o gasgliad da."