Saith Diwrnod

Catrin Beard

Catrin Beard yn trafod y pynciau sydd wedi denu ei sylw yn ei hadolygiad wythnosol o'r wasg Gymraeg a'r blogiau ar gyfer Post Cyntaf Radio Cymru.

Rhybudd sydd yn erthygl olygyddol Golwg, sy'n rhoi sylw'r wythnos hon i'r Bil Drafft ar Lywodraeth Leol yng Nghymru, a'i argymhellion i gwtogi ar y nifer o awdurdodau.

Does dim amheuon bod cwestiynau yn codi am yr ad-drefnu diwethaf sydd wedi creu cyflogau anferth i rai unigolion a'r uwch swyddogion o fewn llywodraeth leol, gyda thoriadau staff yn aml yn golygu mwy o gyflog i nifer llai o bobl.

Ond, medd yr erthygl, wrth i'r arian a'r hawl i wneud penderfyniadau gael ei dynnu ymhellach oddi wrth y bobl sy'n defnyddio ac yn dibynnu ar y gwasanaethau, rhaid sicrhau bod y llywodraeth ganolog hefyd yn gweithredu mewn modd mwy democrataidd a bod penderfyniadau canolog yn deg ac yn unol ag anghenion holl ardaloedd Cymru.

'Model twyllodrus o ddwyieithrwydd'

Llywodraeth leol sy'n mynd â bryd Simon Brooks hefyd. Ar ei flog fel Cynghorydd tref ym Mhorthmadog, C'mon Port! mae'n rhoi sylw i'r anghydfod a gododd gyda Chyngor Cymuned Cynwyd - a gafodd yn ôl Simon chwip din anhaeddiannol iawn gan yr Ombwdsmon am wneud eu gorau glas i gadw rhyw wedd ar fywyd yn y rhan honno o Gymru'n Gymraeg, drwy beidio â chyfieithu agendâu eu cyfarfodydd.

Ac mae Simon yn holi oes yna unrhyw ddeddf iaith mewn bod yn mynnu fod cyngor cymuned yn ddwyieithog? Nag oes.

Oes yna unrhyw ddisgwyl fod cynghorau cymuned mewn rhannau Saesneg o Gymru yn ddwyieithog? Nag oes.

Rargian, dywed, da ni wedi cael llond bol ar y model twyllodrus yma o ddwyieithrwydd, ac mae'n galw ar gynghorau cymuned a thref Cymraeg eu hiaith Cymru i barhau i weithredu'n Gymraeg yn ôl yr arfer.

Image copyright Twitter

Ond beth yw dwyieithrwydd? Cymru Fyw fu'n holi. Yn ôl Aneirin Karadog, mae dwyieithrwydd yn bwysig, ond pan mae pobl yn dweud fod dwyieithrwydd yn bwysig, mae'n anodd gwybod o ba ochr maen nhw'n dod, ac mae hefyd yn meddwl bod unieithrwydd yn bwysig lle bo'n briodol.

Dyw hi ddim yn neud synnwyr, er enghraifft, i bapurau bro orfod dwyieithogi eu hunen os oes ganddyn nhw gynulleidfa Gymraeg.

Mae Daniel Glyn o'r farn ddylie ni ddim bod yn siarad am Gymry di-Gymraeg ac yn y blaen, dylie ni fod yn pwsho pawb i fod naill ai yn ddwyieithog neu gydag ymwybyddiaeth o ddwyieithogrwydd.

Mae'n credu bod isie i bobl fyw yn y byd real, ac y byd real yw Cymru ddwyieithog - dyna be ddylse ni fod, a dyna beth mae Daniel ymladd i drio ei wneud.

Mae Cymru Fyw yn gwahodd darllenwyr i rannu eu barn am y pwnc - fe allai hon fod yn drafodaeth hir iawn…

Hiwmor hen ffasiwn

Ond at gwestiwn mawr yr wythnos. Ydy Benny Hill yn ddoniol? Yn ôl Aled Sam, mae'n gwestiwn difrifol, ac fe fydd rhaid i chi ddwys ystyried cyn ateb.

Pan oedd yn ei anterth fe fyddai degau o filiynau yn gwylio ei raglenni'n rheolaidd - ond roedd yn perthyn i'w gyfnod ac fe ddaeth y cyfnod hwnnw i ben. Ond yn ôl yr arbenigwyr, os ydych chi neu aelod o'ch teulu wedi datblygu hoffter am Benny Hill neu Mr Bean, fe all hynny fod yn arwydd cynnar o Alzheimers neu ddementia.

Yr allwedd i'r egwyddor yw lefel y soffistigeiddrwydd. Does dim byd cymhleth am hiwmor Benny Hill, Mr Bean a slapstick, ond os yw rhywun yn dangos diléit ynddo lle nad oedden nhw o'r blaen, fe all fod yn arwydd o golli crebwyll ymenyddol.

Ar y llaw arall dywed Aled, falle bo chi jest yn hoffi hiwmor hen ffasiwn, y math o stwff sydd wedi cynnal Nosweithiau Llawen ers degawdau.

Ouch.