Cymru 4-0 Kazakhstan

Cymru v Kazakhstan
Image caption Hon oedd eu buddugoliaeth gynta wrth anelu at fod yn rowndiau Ewro 2017.

Sgoriodd Helen Ward dair gôl ym muddugoliaeth ysgubol Cymru yn erbyn Kazakhstan.

Roedd y gêm yn Hwlffordd a hon oedd eu buddugoliaeth gynta wrth anelu at fod yn rowndiau Ewro 2017.

Di-sgôr oedd hi erbyn yr egwyl cyn i Natasha Harding benio bum munud i mewn i'r ail hanner.

Ward oedd yr eilydd a sgroriodd ddwywaith o fewn dwy funud ac yn y munudau ola roedd y drydedd yn goron ar y cyfan.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod Cymru yn y trydydd safle yng Ngrŵp 8, yn uwch na Kazakhstan ac Israel.