AS o Gymru: Rhybudd am 'raniadau ofnadwy' Llafur

corbyn a flynn
Image caption Mae'n bosib y bydd rhaid i Jeremy Corbyn ymddiswyddo, meddai Paul Flynn

Gan fod Llafur mewn "llanast difrifol" mae'n bosib bydd rhaid i Jeremy Corbyn ymddiswyddo, meddai Aelod Seneddol Cymreig.

Dywedodd AS Gorllewin Casnewydd, Paul Flynn, fod "rhaniadau ofnadwy" o fewn y blaid ond mynnodd mai'r arweinydd ddylai benderfynu ymddiswyddo ac na ddylai gael ei wthio o'r swydd.

"Dw i wedi dweud wrth Jeremy: 'Os wyt ti'n gorffen fel Michael Foot, Gordon Brown ac Ed Miliband, yn broblem i'r blaid ... os wyt ti'n llai poblogaidd na'r blaid, bydd rhaid i'r arweinydd fynd'," meddai, "ac rwy'n credu bod Jeremy yn deall hynny."

Hefyd dywedodd wrth raglen Taro'r Post Radio Cymru nad oedd yn bosib cael polisi gwahanol ar Syria rhwng y fainc flaen a'r arweinydd.

'Wedi synnu'

Roedd ei sylwadau wrth i AS Llafur Cymreig arall fynegi ei syndod wedi i'r arweinydd ysgrifennu at ASau yn dweud na allai gefnogi cyrchoedd awyr yn Syria.

Fe ddywedodd AS De Caerdydd a Phenarth, Stephen Doughty, ei fod wedi clywed am y llythyr ar newyddion y BBC.

Mae'n bosib y bydd rhai o'r gweinidogion cysgodol yn ymddiswyddo wedi cyhoeddiad Mr Corbyn nad yw o blaid ymyrraeth filwrol.

Image caption Roedd Stephen Doughty "wedi synnu" at lythyr yr arweinydd

'Cwestiynau sylweddol'

Ar raglen BBC Good Morning Wales,fe ddywedodd Mr Doughty bod y prif weinidog wedi cyflwyno "achos cryf" dros weithredu ond ychwanegodd bod "cwestiynau sylweddol" i'w hateb.

Dywedodd ei fod "wedi synnu, yn amlwg" pan dderbyniodd lythyr Mr Corbyn nos Iau.

"Ro'n wedi synnu, ro'n i'n gyrru'n ôl i Gaerdydd wedi'r drafodaeth yn Llundain ac fe glywais i amdano ar newyddion y BBC, felly ro'dd e'n sypreis," meddai.

"Dw i'n meddwl ein bod ni i gyd yn disgwyl y bydd 'na drafodaeth bellach, yn amlwg, dros y penwythnos a dydd Llun. Dw i'n credu fod hynny'n bwysig."

Mae'r rhain yn faterion "difrifol iawn, iawn" meddai Mr Doughty ac yn delio â bygythiad "sefydliad hynod beryglus sydd wedi bygwth a recriwtio rhai o'm etholwyr i yng Nghaerdydd".

Bu farw Reyaad Khan - un o dri o ddynion o'r brifddinas sydd wedi ymuno â'r sefydliad yn Syria - mewn cyrch awyr gan yr Awyrlu ym mis Awst.

Image caption Roedd Reyaad Khan yn fideo yr ithafwyr Islamaidd