George North yn arwyddo cytundeb newydd â Northampton

George North Image copyright Rex Features
Image caption Mae North wedi ennill 55 o gapiau rhyngwladol

Mae asgellwr Cymru, George North, wedi arwyddo cytundeb newydd gyda Northampton yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Roedd hen gytundeb y chwaraewr 23 oed o Ynys Môn yn dod i ben yn ystod haf 2016.

Mae North wedi ymddangos 42 o weithiau i Northampton ers ymuno o'r Scarlets yn 2013.

"Mae'n un o chwaraewyr gorau'r byd - rhywbeth y mae wedi'i ddangos dro ar ôl tro yn ystod ei amser yma," meddai cyfarwyddwr rygbi Northampton Jim Mallinder.