Rhybudd o wyntoedd cryfion ar draws Cymru

tywydd

Mae rhybudd melyn "byddwch yn ymwybodol" o wyntoedd cryfion ar draws Cymru ar gyfer y penwythnos.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd eu bod yn disgwyl gwyntoedd o hyd at 60mya o gyfeiriad y de-orllewin ddydd Sadwrn.

Rhybuddion nhw y gallai gynyddu i 70mya ddydd Sul gyda'r gwyntoedd cryfaf ar arfordir y gorllewin.

Mae'r rhybudd mewn grym o 09:00 ddydd Sadwrn tan 18:00 ddydd Sul.