Caeredin 32-13 Dreigiau

Adam Hughes Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Adam Hughes o'r Dreigiau yn ymosod

Fe wnaeth perfformiad grymus gan Gaeredin sicrhau buddugoliaeth pwynt bonws yn erbyn y Dreigiau yng nghystadleuaeth y Pro12 ym Murrayfield.

Fe ddangosodd y Dreigiau ddiffyg disgyblaeth, gyda phedwar cerdyn melyn yn eu herbyn, a gan chwarae am gyfnod gyda 13 ar y cae.

Nic Cudd sgoriodd unig gais yr ymwelwyr, a hynny yn hwyr yn y gêm.

Mae'r canlyniad yn golygu fod y Dreigiau yn parhau heb fuddugoliaeth oddi cartref yn y Pro12.

WP Nel groesodd gyntaf i Gaeredin, ac yn yr ail hanner roedd yna geisiadau i Alistair Dickinson, Tom Brown a Matt Scott.