Lerpwl 1-0 Abertawe

abertawe lerpwl Image copyright Reuters

Fe lwyddodd Jurgen Klopp i sicrhau ei fuddugoliaeth gyntaf yn Anfield yn Uwchgyngrair Lloegr, wedi i gic gosb yn yr ail hanner gan James Milner sicrhau'r pwyntiau i Lerpwl yn erbyn Abertawe.

Fe ddaeth y gic gosb i Lerpwl ar ôl i gefnwr yr Elyrch, Neil Taylor gyffwrdd a'r bêl gyda'i law.

Roedd y chwarae yn fflat am gyfnodau mawr, a'r ddau dîm yn methu a chymryd rheolaeth lawn o'r gêm.

Dim ond un gêm mewn 10 mae Abertawe wedi ennill yn y gynghrair ers mis Awst.

Methodd ochr Garry Monk i sicrhau unrhyw ymgais am gôl o fewn y 90 munud, ac fe fyddant yn wynebu'r ddau dîm sydd ar frig y gynghrair yn ystod y ddwy gêm nesaf, sef Manchester City a Chaerlŷr.