Galwadau i ail-ystyried cyllid myfyrwyr

myfyrwyr Image copyright PA

Dylai cymorthdaliadau i fyfyrwyr roi blaenoriaeth i fyfyrwyr tlawd a phrifysgolion yng Nghymru, yn ôl y gwrthbleidiau yn y Cynulliad.

Gyda'r rhan fwyaf o brifysgolion yn codi £9,000 y flwyddyn, mae Llywodraeth Cymru'n talu tua £5,000 am bob myfyriwr ble bynnag maen nhw'n astudio yn y DU.

Ond mae sefydliad Prifysgolion Cymru eisiau gweld system grantiau newydd yn seiliedig ar brofion modd.

Mae'r Ceidwadwyr yn addo cronfa galedi i fyfyrwyr, ac mae Plaid Cymru'n dweud mai sefydliadau yng Nghymru'n unig ddylai dderbyn arian.

'Cyfle'

Ar y funud, mae myfyrwyr o Gymru sydd mewn prifysgol gyhoeddus yn y DU yn gallu cael grant o £5,190 ar gyfer eu ffïoedd, yn ogystal â benthyciadau.

Mae pob myfyriwr yn gymwys am fenthyciad cynhaliaeth, tra fod grant cynhaliaeth hefyd ar gael, yn seiliedig ar brawf modd.

Dydd Llun, fe ddywedodd yr Athro Colin Riordan, cadeirydd Prifysgolion Cymru, y byddai cynnig grantiau cynhaliaeth ar sail prawf modd i fyfyrwyr yn "rhoi cyfle i fwy o bobl dalentog drawsnewid eu bywyd."

Ychwanegodd y byddai "canolbwyntio grantiau ffïoedd dysgu ar y rhai sydd eu hangen fwyaf" yn rhyddhau arian fyddai'n gallu cael ei ddefnyddio i sicrhau "arlwy o safon uchel" mewn prifysgolion.

Costau Byw

Yn siarad ar BBC Radio Wales, dywedodd Nick Ramsay, gweinidog cysgodol cyllid Ceidwadwyr Cymru, fod ei blaid eisiau canolbwyntio adnoddau ar y myfyrwyr "sydd ei angen go iawn."

"Dydi ffïoedd ddim yn cael eu ad-dalu tan fod eich incwm yn cyrraedd lefel penodol", meddai.

"Mae llawer yng Nghymru sy'n ei gweld hi'n anodd delio â'u costau byw hefyd."

Ychwanegodd nad oedd y Torïaid wedi penderfynu a fydden nhw'n cynnig cymorthdaliadau i fyfyrwyr o Gymru sy'n astudio yng ngweddill y DU.

'£90m i Loegr'

Dywedodd lefarydd addysg Plaid Cymru Simon Thomas wrth BBC Radio Wales fod talu £90m y flwyddyn i brifysgolion Lloegr drwy'r grantiau yn ddefnydd "amhriodol" o arian cyhoeddus Cymru.

Mae o'n credu na ddylai Cymry sy'n astudio'n Lloegr dderbyn grant, ag eithrio'r rhai sy'n astudio cyrsiau sydd ddim ar gael yng Nghymru, fel milfeddygaeth.

Ychwanegodd y dylai mathau eraill o addysg bellach a hyfforddiant fel prentisiaethau gael eu cefnogi.

Dywedodd Aled Roberts AC, llefarydd addysg y Democratiaid Rhyddfrydol, y byddai'r blaid yn cael gwared â'r Grant Ffïoedd Myfyrwyr ac yn sefydlu grant cynhaliaeth newydd werth rhwng £2,000 a £3,000 i fyfyrwyr o Gymru.

Yn ôl llefarydd ar ran UKIP ,mae nhw o blaid torri neu gael gwared â ffïoedd myfyrwyr "lle fo hynny'n bosib yn ariannol."

Mae Llywodraeth Cymru yn disgrifio'u polisi fel "buddsoddiad mewn pobl ifanc" ac yn dweud y bydd Adolygiad Diamond ar ariannu addysg uwch yn sail i'w polisi yn y dyfodol.