Pam bwydo o'r fron?

bwydo o'r fron

A ddylai mamau fwydo o'r fron mewn mannau cyhoeddus? Mae'n gwestiwn sy'n aml yn hollti barn.

Yr wythnos hon mae pwysigrwydd yr arferiad yn cael ei hyrwyddo yn ystod Wythnos Bronfwydo'r Byd rhwng 1-8 Awst.

Mae Catrin Lliar Jones o Ben Llŷn yn fam i ddau o blant. Mae hi'n amddiffyn hawliau mamau i fwydo eu babis yn y dull mwyaf naturiol:


Greddf naturiol

I mi mae'r ddadl yn syml. Meiddied neb fod wedi rhoi cerydd i mi am fronfwydo mewn mannau cyhoeddus.

Mi fysai giatiau tanllyd uffern wedi cael eu taflu'n agored gan ryddhau haid o hormonau blin ar geffylau dychrynllyd. Roeddwn i wedi ennill yr hawl a doedd neb yn mynd i'w ddwyn oddi wrtha'i.

Mae'r angen i fwydo yn reddfol, ond tydi'r weithred ddim. I fod yn onest, roedd yn un o'r pethau mwyaf poenus a rhwystredig dw i erioed wedi trio gwneud. Ond cynted ag o'n i'n hen law (fel o'n i'n benderfynol o fod) doedd neb yn mynd i fy nadu ei wneud yn unrhyw le.

Cefais fy magu yng nghefn gwlad yng nghol cymuned glos, lle'r oedd rôl y fam yn un amlwg a phwysig. Ro'n i'n gwybod bryd hynny fy mod yn benderfynol o fod yn fam dda, ac wrth i mi dyfu, tyfodd fy ngreddfau mamol yn gryfach. Ond hir bu'r aros i fod yn fam.

Taro'r botel

Rhwng Awst 2005 ac Ebrill 2008 a minnau eisoes yn gyfforddus yn fy nhridegau, cafodd dros gant o brofion beichiogi negatif eu gollwng yn siomedig i'r bin yn y stafell 'molchi. Roedd fy mreuddwyd yn araf ddiflannu fesul ffon blastig i'r sbwriel.

Drwy bob siom a rhwystr arall hyd fy nhaith bywyd, daliais fy ngafael yn y gred y bysai hyn, o leiaf, yn gweithio.

Crio nes i pan o'r diwedd ymddangosodd ail linell fach binc. Nes i grio fwy byth ar ddiwedd 30 awr o lafur aeth o ddrwg i waeth gan orffen yn y theatr. Yna, nes i grio gydag anobaith llwyr wrth ddarganfod, wedi'r geni, nad oeddwn i'n fuwch laeth mor dda ag o'n i 'di gobeithio byswn i, a bu raid taro'r botel.

Bwydo mewn car yn symud

Credais bysai fy ngreddfau mamol 'di gneud petha'n haws ond wnaethon nhw ddim. Felly brwydro oedd rhaid, gan ddefnyddio pob tacteg a dull (heblaw am 'eu rhwbio nhw gyda sebon llawr' fel awgrymodd fy Mam).

Yn y diwedd, talodd fy nyfalbarhad ar ei ganfed a meistrolais y dull o fwydo yn unrhyw le pryd bynnag oedd y galw yn dod, hyd yn oed wrth bwyso dros sêt babi yng nghefn car oedd yn symud (ia, peidiwch â deud wrth neb).

Mae San Steffan yn bell ar ei hôl hi. Meiddied neb ddweud wrth unrhyw fam, yn unrhyw le, a hithau wedi gobeithio, brwydro a chrio, bo' hi ddim yn cael bwydo ei babi. Mae pob un ohonyn nhw wedi ennill yr hawl - cywilydd o'r mwyaf ar unrhyw un byddai'n ceisio dwyn hynny oddi wrthyn nhw.


Ydych chi'n cytuno gyda Catrin? Cysylltwch gyda @BBCCymruFyw ar Twitter neu e-bostiwch cymrufyw@bbc.co.uk

Image caption Catrin a'r plant