Parhau i chwilio am fenyw mewn afon

aberhonddu afon Wysg

Wrth i lifogydd barhau i effeithio ar Gymru, mae swyddogion yn ail-afael yn yr ymgyrch i ddod o hyd i fenyw yn Afon Wysg yn Aberhonddu.

Mae tystion yn dweud eu bod nhw wedi gweld y fenyw 51 oed yn y dŵr toc wedi 18:30 nos Lun.

Fe ddywedodd y tîm achub mynydd lleol eu bod nhw wedi rhoi'r gorau iddi dros nos.

Ychwanegodd y criw eu bod yn edrych eto ar lefelau'r afon gyda'r heddlu fore Mawrth.

Straeon perthnasol