Pedwar wedi eu hanafu mewn gwrthdrawiad ar yr A467

A467 Image copyright Google
Image caption Mae'r A467 ar gau ger y parc technoleg

Mae pedwar o bobl yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ar yr A467 fore Mawrth.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Honda Civic coch a fan Renault gwyn ar yr A467 rhwng Trecelyn a Chrymlyn, am tua 07:40.

Cafodd gyrrwr yr Honda a'r tri oedd yn teithio yn y fan anafiadau, ac maen nhw wedi eu cludo i'r ysbyty.

Mae'r ffordd ar gau ger Parc Technoleg Trecelyn ac mae traffig yn cael ei ddargyfeirio.

Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth ac yn gofyn i unrhyw un welodd y cerbydau cyn y gwrthdrawiad i gysylltu gyda nhw ar 101.