Newid hinsawdd: Trafod ym Mharis

COP21

195 o wledydd, naw diwrnod, a chyfle i drafod sut mae delio â newid hinsawdd. Dyma sy'n digwydd yn Nghynhadledd COP21 ym Mharis ar hyn o bryd.

Mae'r trafodaethau wedi eu hoelio ar ostwng y nwyon sy'n llygru'r amgylchedd ar draws y blaned, a lleihau effeithiau ar ddyn yn sgil hynny.

Dyna ydy hanfod y broblem - cael cymaint o wahanol wledydd â phosib i gytuno - er bod pob gwladwriaeth â'u dyheadau a'u pryderon eu hunain.

Ond pa mor ymarferol fydd cael cytundeb, pan fo gwledydd tlotach sydd wedi llygru llai ar y ddaear yn tueddu i feio gwledydd Ewrop, Gogledd America, Rwsia a China am y lefelau uwch o garbon sydd yn yr awyr erbyn hyn, o'i gymharu â chyn y Chwyldro Diwydiannol?

Mwy o frys

COP21 ydy'r Council of the Parties. Mae'r '21' yn cyfeirio at yr unfed tro ar hugain i drafodaethau yn cynnwys cynrychiolwyr o'r holl wledydd ddigwydd, ers y gynhadledd gyntaf yn 1992.

Wedi methiant Cynhadledd Copenhagen yn 2009 i sefydlu cytundeb rhyngwladol i dorri ar allyriadau nwyon tŷ gwydr, mae mwy o frys ac arddeliad i geisio gwireddu hynny erbyn 11 Rhagfyr.

Fe gytunodd aelodau'r Cenhedloedd Unedig yn 2011 bod angen ateb erbyn diwedd eleni. Ond mae amheuon o hyd fod y newidiadau i'r hinsawdd yn rhan o drefn naturiol y byd.

Ffeithiau o blaid

Yn ôl 97% o wyddonwyr y byd sy'n arbenigo yn y maes yma, mae'r ffeithiau o blaid sefydlu cytundeb ar newid hisnawdd yn glir:

  • tymheredd y byd wedi esgyn 1 gradd Celcius ers 1850
  • cynnydd o 30% yn lefelau nwy carbon deuocsid (CO2) ers dechrau'r cyfnod diwydiannol
  • iâ yr Arctig wedi cilio 4% ers 1979
  • Naw o'r 10 mlynedd gynhesaf o ran tymheredd wedi eu cofnodi ers y flwyddyn 2000

Yn fwy addawol

Ond os ydy cynhesu byd eang yn broblem mor argyfyngus, pam bod 20 mlynedd o drafod, i gyrraedd y cyfnod yma o ddadlau ym Mharis?

Consensws fydd sylfaen unrhyw gytundeb - ac mae'n edrych yn fwy addawol eleni na chwe mlynedd yn ôl gan fod dros 180 o wledydd wedi cyfwyno eu haddewidion lleihau nwyon i'r Cenhedloedd Unedig yn barod, gan gynnwys China a'r Unol Daleithiau - y ddwy wlad sy'n llygru fwyaf.

Un taclen caled, fydd sicrhau cytundeb cyfreithiol, a mesur gwledydd sydd wedi ymrwymo yn flynyddol i lygru llai. Bydd hefyd angen nodi faint o arian i'w rannu i'r gwledydd yn Asia, Affrica a Ynysoedd y Môr Tawel i addasu rhag newidiadau hinsoddol.

A hyn oll ydy'r angen meddir, i geisio cyfyngu cynnydd yn nhymheredd y byd i lai na 2 gradd Celcius erbyn diwedd y ganrif, ac osgoi newidiadau hinsawdd fyddai'n beryglus i ddynoliaeth.

Bydd Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru, Iolo ap Dafydd, ym Mharis â'r diweddara' o'r gynhadledd ddiwedd yr wythnos.