Darganfod corff ar ôl chwilio afon Wysg yn Aberhonddu

Afon Wysg, Aberhonddu Image copyright Jaggery/Geograph

Cadarnhaodd heddlu Dyfed Powys eu bod wedi dod o hyd i gorff yn afon Wysg.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i chwilio'r afon yn Aberhonddu yn dilyn adroddiadau fod dynes wedi ei gweld yn y dŵr tua 18:30 nos Lun.

Roedd yr heddlu hefyd wedi cael galwad yn dweud fod gwraig 51 oed o'r ardal ar goll.

Bu criwiau gwasanaeth tân ac achub Aberhonddu, Talgarth a Chrughywel, ynghyd â thîm arbenigol o Abertawe yn rhan o'r chwilio.