Pleidlais Syria: Cyrchoedd yn debygol?

awyren Tornado RAF Image copyright Chris Radburn
Image caption Mae lluoedd Prydain eisioes yn targedu IS yn Irac

Mae'n edrych yn fwy fwy tebygol y bydd awyrlu'r Deyrnas Unedig yn dechrau paratoi nos Fercher i fomio'r grŵp terfysgol sy'n cael ei adnabod fel y Wladwriaeth Islamaidd neu IS.

Y disgwyl yw y bydd gan David Cameron fwyafrif cyfforddus - wedi'r cyfan, o'r dechrau, fe ddywedodd y Prif Weinidog na fydde fe'n galw pleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin oni bai ei fod e'n sicr o'i hennill.

Ond, er hynny, mae gwaith ymchwil gan BBC Cymru yn dangos darlun ychydig yn wahanol o ran aelodau seneddol Cymreig.

Hyn yn hyn, o'r rhai sydd wedi penderfynu sut y byddant yn pleidleisio mae'r rhan fwyaf o Aelodau Seneddol Cymreig (16) yn bwriadu pleidleisio yn erbyn cynnig Llywodraeth Prydain i ymestyn y cyrchoedd awyr.

Mae hynny'n cynnwys dros hanner yr aelodau Llafur o Gymru - 13 o'r 25 - sy'n bwriadu ymuno â'u harweinydd Jeremy Corbyn a thri AS Plaid Cymru drwy wrthwynebu'r cynllun.

"Dw i ddim yn basiffist llwyr," meddai Jonathan Edwards o Blaid Cymru, "ond dydw i ddim wedi fy argyhoeddi gan gynllun y Prif Weinidog."

Image caption Dywedodd y Prif Weinidog na fyddai'n galw pleidlais oni bai ei fod yn sicr o'i hennill.

'Amddiffyn pobl Prydain'

Yn dilyn penderfyniad Mr Corbyn i roi'r hawl i aelodau Llafur bleidleisio yn ôl eu cydwybod, mae dau AS, Chris Bryant - sy'n aelod o gabinet yr wrthblaid - a Wayne David wedi dweud y byddant yn cefnogi David Cameron.

Yn ôl Mr David, AS Caerffili, gan fod y Deyrnas Unedig eisoes yn gweithredu'n filwrol yn erbyn IS yn Irac, mae felly yn gwneud synnwyr i dargedu'r grŵp yn ei gadarnle yn Syria.

Ychwanegodd Mr David: "Mae Prydain eisoes yn darged i IS ac felly dwi'n meddwl bod angen gweithredu er mwyn amddiffyn pobl Prydain."

Mae saith o'r 11 AS Ceidwadol Cymreig hefyd yn bendant y byddan nhw'n pleidleisio dros y cynllun.

Rhai'n dal i ystyried

Ond oriau'n unig cyn ddechrau'r ddadl, mae nifer sylweddol o'r gwleidyddion - 12 AS o Gymru - yn parhau i gnoi cil ar sut i fwrw eu pleidlais.

Fe ddywedodd un AS o'r Blaid Lafur ddoe ei fod e'n dal heb benderfynu er iddo ystyried y dadleuon hyd at oriau mân y bore.

Ddoe, bu'r Ceidwadwr Glyn Davies (AS Sir Drefaldwyn) mewn cyfarfodydd drwy'r dydd gyda'r Prif Weinidog, yr ysgrifennydd amddiffyn, yr ysgrifennydd cartref, yr ysgrifennydd tramor, a phenaethiaid y gwasanaethau diogelwch er mwyn cyrraedd penderfyniad.

Dywedodd ei gyd-Geidwadwr, Simon Hart (AS Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro), ei fod e hefyd yn gwrando ar yr holl ddadleuon - "fe fydd e'n benderfyniad dewr i bleidleisio naill ffordd neu'r llall," meddai.

Erbyn deg o'r gloch heno, bydd rhaid iddyn nhw benderfynu.