Atal brechu moch daear 'dros dro' oherwydd prinder

brechu

Mae'r rhaglen o frechu moch daear wedi cael ei hatal dros dro yn dilyn "ymyrraeth" yn y broses, meddai Llywodraeth Cymru.

Fe ddechreuodd y gwaith o waredu diciâu gwartheg yng ngogledd Penfro yn 2012.

Dywedodd y dirprwy weinidog amaeth bod problemau gyda'r cyflenwad.

Does dim digon o'r brechlyn ar ôl oherwydd prinder byd eang, meddai Rebecca Evans.

Dechreuodd y cynllun £4.5m bedair blynedd yn ôl ac mae blwyddyn ohono ar ôl.

"Rhaid i iechyd y cyhoedd wastad fod y prif flaenoriaeth," meddai Ms Evans.

"Nes bod y sefyllfa ynghylch cyflenwad wedi ei ddatrys fe fydd ein prosiectau o frechu sydd ar waith yng Nghymru - sy'n cynnwys y prosiect pum mlynedd IAA (Ardal Gweithredu Dwys) a rhannau o'r Grant Brechu Moch Daear - yn cael eu hatal dros dro.

"Rydym bedair blynedd mewn i raglen pum mlynedd o fewn yr IAA a dwy flynedd mewn i'r grant preifat o frechu, ond dydi hyn ddim yn golygu bod y gwaith caled o'r blynyddoedd cynt wedi ei wastraffu.

"Rydym wedi llwyddo i weinyddu dros 5,500 dôs yn ystod y cyfnod hwnnw."

Cynllun 'ar chwâl'

Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd y Blaid Geidwadol fod y cynllun ar chwâl.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, "Mae angen i'r dirpwy weinidog ystyried yn ofalus sut y mae hi wedi delio a'r 'fiasco' hwn.

"Gellid bod wedi osgoi'r cyhoeddiad hwn petai cyflenwad hir-dymor wedi ei sicrhau, a bydd ffermwyr Cymru yn iawn i ofyn pam na ddigwyddodd hynny."

Disgrifiodd llefarydd amaeth Plaid Cymru'r newyddion fel un "ofnadwy" sy'n gwneud y rhaglen frechu'n "destun sbort".

"Fe ddylai'r llywodraeth Lafur fod â chywilydd ei bod wedi gallu gadael hyn i ddigwydd," meddai Llyr Gruffydd.

Roedd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams hefyd yn chwyrn ei beirniadaeth.

"Mae'r newyddion heddi i bob pwrpas yn golygu fod cynllun TB y Blaid Lafur ar chwâl," meddai.

"Mae'r ffaith fod yna brinder bydeang o'r brechlyn yn hysbys i lawer, felly mae'n anodd deall pam na chafodd cynllun wrth gefn ei baratoi."

Mae nifer y gwartheg sydd wedi eu heintio wedi disgyn yng Nghymru.

Ond dywedodd y prif swyddog meddygol y llynedd ei bod yn rhy gynnar i ddweud a oedd y rhaglen wedi gwneud lles yn ehangach.

Cafodd y rhaglen frechu ei chyhoeddi gan weinidogion Llafur yn 2012.