Pa fudd sydd i’r gweithydd?

Y mae amser i bob peth, ac amser i bob amcan dan y nefoedd medd Llyfr y Pregethwr ac yn ôl rheolau arferol ein gwleidyddiaeth amser Bae Caerdydd ddylai hwn fod. Mae 'na etholiad Cynulliad ar y gorwel a llywodraeth fwyafrifol wedi ei ffurfio yn San Steffan. Pobl y Bae nid rhai glannau afon Tafwys ddylai fod yn cael y sylw.

Nid felly y mae pethau. Yn rhannol mae hynny oherwydd natur y drafodaeth yn San Steffan. Mae popeth arall yn ymddangos fel chwarae bach wrth i aelodau seneddol drafod p'un ai ydy hwn yn amser i ryfel neu'n amser i heddwch.

Mae'n anffodus a dweud y lleiaf bod y dadleuon ynghylch bomio Syria wedi mynd yn gymysg oll i gyd ac artaith fewnol y blaid Lafur sydd yn dominyddu popeth arall yn San Steffan y dyddiau hyn.

Mae'n anodd gor-ddweud ynghylch hyn. Treuliais i rai oriau wythnos ddiwethaf yn un o fariau'r senedd a rhyfeddu at ba mor agored yr oedd rhai o fawrion Llafur wrth fynegi eu dirmyg ynghylch arweinydd newydd eu plaid. Does dim ymdrech, hyd y gwelaf i, i hyd yn oed ceisio esgus bod 'na unrhyw fath o undod yn bodoli o fewn y blaid seneddol neu rhwng y blaid seneddol a'r blaid ar lawr gwlad.

Yn y fath amgylchiadau mae'n anodd credu nad yw dyfodol y blaid a'u dyfodol personol yn chwarae ar feddyliau ambell i aelod seneddol heddiw yn enwedig y rheiny lle mae llwyth o aelodau newydd yn awchu i flasu gwaed eu "Tori Coch' lleol.

Gwaed go iawn ddylai fod ar eu meddyliau, wrth reswm, ond rwy'n amau nad felly y mae pethau.

Lle mae hyn oll yn ein gadael ni felly?

Wel fe fydd David Cameron yn sicrhau mwyafrif heno gyda digon o aelodau Llafur yn ei gefnogi iddo allu hawlio bod y penderfyniad yn un rhyng-bleidiol - o gymryd hynny yw ein bod o hyd yn ystyried Llafur fel plaid yn yr ystyr draddodiadol.

Yn y cyfamser yn ôl ym Mae Caerdydd mae aelodau Llafur yn wynebu etholiad ac yn gwneud eu gorau glas i argyhoeddi nhw eu hun na fydd Corbynfydrwydd San Steffan yn effeithio gormod ar eu cyfleoedd nhw ym mis Mai. Breuddwyd gwrach yw hynny.