Newid hinsawdd: Bygythiad i gymunedau glan môr Cymru

llifogydd

Yn ôl y Swyddfa Dywydd un canlyniad o newid hinsawdd ydi glaw trymach, a stormydd mwy cyson.

O ystyried bod dros 1,300 o filltiroedd o arfordir yng Nghymru, does ryfedd bod rhai cymunedau yn cael eu heffeithio - 48 i fod yn fanwl gywir.

Flwyddyn yn ôl fe gymeradwyodd Llywodraeth Cymru Cynllun Rheoli'r Traethlin er mwyn asesu peryglon erydu a gorlifo ar hyd y glannau yn ystod y ganrif hon.

Un o'r mannau dan fygythiad ydi Heol y Traeth ger Notais ar gyrion Porthcawl. Mae dros 40 o dai gyda golygfeydd braf tuag at Aberogwr - ond ymhen 20 mlynedd ni fydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn talu i atgyweirio'r amddiffynfa fôr sydd o flaen tua 20 o gartrefi.

'Codi braw'

Mae Huw Gosling yn byw yn un ohonyn nhw, ac yn teimlo bod geiriad y Cynllun Traethlin, yn hytrach na pherygl y môr o bryder i'r pentrefwyr.

"Mae 'di codi braw ar bron pawb sy'n byw yma," meddai. "Ond y cynllun sydd wedi codi'r braw, nid y môr.

"'Dyw'r môr ddim wedi symud lot ac mae pobl wedi byw yma am ugeiniau o flynyddoedd ac maen nhw'n dweud nad ydyn nhw'n gweld gwahaniaeth.

"Pan ry'n ni'n gofyn i'r cyngor faint mae'r môr wedi codi, dydyn nhw ddim yn gwybod chwaith achos dydyn nhw ddim wedi bod yn mesur e hyd yn hyn."

Buddsoddiad

Cyngor Bwrdeistref Pen-y-Bont ar Ogwr sy'n gofalu ar ôl y ffordd sydd wrth fynedfa'r tai.

Yn gynharach eleni fe wnaeth CNC fuddsoddi £300,000 mewn morglawdd yr ochr arall i'r bae - sydd i amddiffyn 26 o dai sydd mewn perygl.

Ers 2011 mae'r llywodraeth wedi gwario bron i £300 miliwn ar amddiffyn eiddo ger y môr ac afonydd Cymru.

Ac mae £150 miliwn arall ar gael ar gyfer cyfnod 2018-21.

Ond does dim cyllid hyd yma ar gyfer adleoli pobl o'r tai yn rhai o'r 48 cymuned allai gael eu heffeithio yn ystod y ganrif.

Gofyn mae Huw Gosling a'i gymdogion, pam creu cynllun cyn meddwl am y gost?

Er nad ydy Cynllun Rheoli'r Traethlin yn ddogfen gyfreithiol, fe fydd hi yn cael ei hystyried gan yr awdurdodau wrth ystyried polisïau cynllunio yn y dyfodol.

'Ddim yn deall'

Mae'n anodd trafod symud pobl o'u cartrefi, yn ôl Emyr Williams o gyngor sir Benfro, ond mae angen gwneud fel bod pobl yn deall y peryglon a beth sy'n bosib petai lefel y môr yn codi hyd at fetr erbyn diwedd y ganrif.

"Mae pobl yn gwrando ond dydyn nhw ddim yn deall fod gwerth y tŷ maen nhw'n fyw ynddo am fynd," meddai.

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol oedd y corff cyntaf ddeng mlynedd yn ôl i drafod yn agored yr angen i addasu i'r 60% ohonyn ni sy'n byw yn agos i lannau'r môr yng Nghymru.

Yn hytrach na adeiladu morgloddiau, fe ddylid caniatáu gorlifo mewn rhai mannau, dyna oedd neges ganolog eu hadroddiad "Glannau Ansefydlog."

"Dw i'n meddwl mae'r ddealltwriaeth yma wedi cael ei dderbyn ym mhob man mewn ffordd," meddai Richard Neale sy'n swyddog prosiect i'r ymddiriedolaeth.

"Y cwestiwn ydi sut mae rhywun yn gweithio efo cymunedau yn y llefydd lle mae'r holl fudiadau wedi cytuno fod o'n ffolineb cario ymlaen yn trio cadw'r morgloddiau yn eu lle."

Fairbourne

Image caption Mae cannoedd o dai dan fygythiad ym mhentref Fairbourne yng Ngwynedd

Cymuned sydd wedi cael cryn sylw ydi Fairbourne ger Y Bermo. Yno mae 510 o dai mewn perygl hir dymor.

Am 40 mlynedd fe fydd Cyngor Gwynedd yn amddiffyn preswylwyr y tai rhag llifogydd o'r môr, o afon Mawddach a dŵr yn codi o dan y ddaear.

Wedi hynny, petai lefelau'r môr yn codi hyd at fetr, a rhagor o stormydd a llanw uchel fel y llynedd yn taro'r ardal yn fwy cyson, bydd angen ystyried os ydy'r pentref yn fan diogel i fyw.

Mae ymgynghori cyhoeddus ar symud pobl a "digomisiynu'r pentref," gan ddefnyddio gair swyddogion y cyngor, ar fin dechrau.

"Mae'n rhaid i ni siarad gyda thrigolion yno gan holi am eu pryderon. Mae eu bywydau nhw yn ein dwylo ni ac mae'n rhaid i ni geisio cael yr ateb gorau o ran adleoli'r pentref," meddai Lisa Marshall o Gyngor Gwynedd.